Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid
Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £3.8 miliwn i Gymru i helpu’r rhai ar incwm isel sy'n cael eu heffeithio gan gostau ynni uchel oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried yr opsiynau ac wedi penderfynu ar gwmpas a graddfa'r cymorth. Bydd taliad o £200 yn cael ei wneud i bob aelwyd sy'n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac sy'n ddibynnol ar naill ai olew gwresogi neu LPG.
Bydd y taliad yn cael ei ddosbarthu gan yr awdurdodau lleol. Bydd y rhai sydd ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac sy'n debygol o fod yn ddibynnol ar olew gwresogi neu LPG yn cael llythyr gan eu hawdurdod yn eu gwahodd i wneud cais. Bydd angen i hawlwyr gadarnhau eu math o danwydd gwresogi a darparu manylion banc, a chaiff taliadau eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc.
Bwriad y taliad untro yw lleddfu rhywfaint o'r pwysau ariannol y mae aelwydydd incwm isel yn eu hwynebu gyda chost uwch olew gwresogi ac LPG. Er enghraifft, gallai'r taliad alluogi rhai aelwydydd i osod archebion na fyddent fel arall yn gallu eu gwneud neu helpu rhai aelwydydd i leihau eu risg o fynd i fwy o ddyled os ydynt wedi gorfod talu am danwydd yn ddiweddar am gost llawer uwch o'i gymharu â’r lefelau cyn y gwrthdaro. Gall y taliad hefyd wella llesiant meddyliol aelodau'r aelwyd trwy leihau'r straen sy'n gysylltiedig â phryderon ariannol.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd yr Awdurdod yn prosesu eich data personol i weinyddu'r cynllun hwn.
Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch chi yn cael ei defnyddio at y diben(ion) canlynol:
- Asesiad o'ch cymhwysedd ar gyfer y taliad Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid
- Rhoi’r taliad grant cymorth i chi.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:
- Mae prosesu yn angenrheidiol o dan Erthygl 6 e) GDPR y DU. Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd.
Lle mae data Categori Arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithiol yw Erthygl 9 (2) g) rhesymau budd cyhoeddus sylweddol (deddfwriaeth fel isod). Yr amodau prosesu budd cyhoeddus sylweddol yw 6) dibenion statudol a llywodraethol.
Y ddeddfwriaeth berthnasol yw
- Deddf Lleoliaeth 2011.
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2015
Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen arnom pan ofynnwn amdani, gallai hyn arwain at yr Awdurdod yn methu ag asesu eich cymhwysedd i gael cymorth o dan y cynllun grant.
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn:
- Enw, cyfeiriad
- Rhif ffôn cyswllt
- Cyfeiriad ebost cyswllt
- Statws Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
- Cyfeirnod cyfrif y Dreth Gyngor
- Enw banc, cod didoli a rhif cyfrif banc
- Dogfennaeth ategol
- Copi o ddatganiad banc sydd wedi'i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
- Copi o fil olew gwresogi neu LPG sydd wedi'i ddyddio o fewn y 12 mis diwethaf.
Nid ydym yn derbyn data personol o unrhyw ffynhonnell arall i ddarparu'r gwasanaeth hwn i chi.
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Byddwn yn rhannu data ystadegol nad yw'n bersonol gyda Llywodraeth Cymru.
Mae sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle efallai y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
- Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
- Lle mae datgelu'r wybodaeth yn ofynnol er mwyn atal neu ganfod trosedd
- Lle mae datgeliad er buddiant allweddol y person dan sylw