Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol

Y dibenion yr ydym yn defnyddio eich data personol ar eu cyfer

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at ddiben(ion)

  • Darparu gwasanaeth cludiant i aelodau o'r gymuned a phlant ysgol
  • Hwyluso cynllun teithio rhatach ar ran Llywodraeth Cymru

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich gwybodaeth yw:

  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yn unol â'r Deddfau Addysg i ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ar gyfer disgyblion cymwys
  • Cydymffurfio â rhwymedigaethau'r Awdurdod o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 wrth ddarparu gwasanaethau cludiant a gwasanaethau prydau bwyd yn y cartref
  • Cydymffurfio â'n tasg gyhoeddus

Beth os nad ydych yn rhoi data personol?

Os na roddwch y wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn amdani, gallai hyn arwain, ni fyddwch yn gallu cael gafael ar wasanaethau, na defnyddio trefniadau teithio rhatach.

Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?

Efallai y byddwn yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Ysgol neu Gyfleuster a fynychwyd
  • Gwybodaeth Gyswllt Perthynas Agosaf
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Lluniau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Credoau crefyddol neu athronyddol

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth o gafwyd ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaethau Cyllid Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaethau Cludiant, Cymdeithasol neu Ddysgu Awdurdodau Lleol eraill
  • Llywodraeth Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Traveline Cymru

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Ysgol neu Gyfleuster a fynychwyd
  • Gwybodaeth Gyswllt Perthynas Agosaf
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Lluniau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Credoau crefyddol neu athronyddol

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

Yn fewnol

  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Dysgu
  • Gwasanaethau Cyllid

Yn allanol

  • Gwasanaethau Cludiant, Cymdeithasol neu Ddysgu Awdurdodau Lleol eraill
  • Llywodraeth Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Traveline Cymru
  • Gweithredwyr tacsis/bysiau

Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:

  • Lle mae gofyn i'r Cyngor roi'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Pan fydd angen datgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ganfod trosedd
  • Lle mae datgelu er budd hanfodol y person dan sylw