Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Tai

Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol

Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion) asesu eich angen am dŷ ac er mwyn darparu tŷ i chi sy’n diwallu eich anghenion.  Gellir defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu yn eich cofnod ar y gofrestr neu’r cofrestrau canlynol:

  • Cofrestr Tai Cyffredin
  • Cofrestr Tai Fforddiadwy
  • Cofrestr Tai Hygyrch
  • Cofrestr Tai Pobl Hŷn
  • Dewisiadau Tai
  • Er mwyn asesu’r angen am lety Teithwyr yn y Sir
  • Cofrestr Tai Amlfeddiannaeth (HMO)
  • Gweinyddu'r Grant Tai Gwag Cenedlaethol yn ardal Sir Ceredigion
  • Cynllun Lesio Cymru

Yn ogystal, gellir defnyddio gwybodaeth i’ch cynorthwyo os oes gennych chi ymholiadau ynghylch digartrefedd.

Y saith gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer swyddogaethau swyddogol neu er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys y ddeddfwriaeth a restrir isod:

  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Rheoliadau Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain atom yn methu darparu ein gwasanaethau i chi, ac yn methu delio gyda’ch cais yn gyfan gwbl, a allai arwain at ganlyniad aflwyddiannus.

Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?

Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Rhyw
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Eich anghenion tai
  • Delweddau/ffotograffau
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Eich cefndir ethnig neu hiliol
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Safbwyntiau Gwleidyddol
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol
  • Data genetig
  • Data biometrig
  • Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati

A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:

Mewnol

  • Gofal Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
  • Cyllid (e.e. Budd-dal Tai/Treth Gyngor)
  • Addysg
  • Tai Sector Preifat (e.e. Grantiau/ Trwsio)
  • Tîm Strategaeth Tai

Allanol

  • Unrhyw gorff cyhoeddus perthnasol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig
  • Heddlu
  • Gwasanaeth prawf
  • Gofal Sylfaenol
  • Gofal Eilaidd
  • Gofal Iechyd Amgen
  • The Wallich
  • Cymdeithas Gofal
  • Y Groes Goch
  • Unrhyw Sefydliad Trydydd Sector sy’n cael cyswllt gydag unigolyn ar y ddwy ochr
  • Cymorth i Fenywod
  • Landlordiaid Preifat
  • Asiantau Eiddo
  • Cyngor Sir Caerdydd fel yr Awdurdod Trwyddedu dynodedig ar gyfer Rhentu Doeth Cymru

Trosglwyddo'ch gwybodaeth i wlad dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y rhennir eich gwybodaeth chi efallai (mewnol ac allanol)?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:

Mewnol

  • Gofal Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
  • Cyllid (e.e. Budd-dal Tai/Treth Gyngor)
  • Addysg
  • Tai Sector Preifat (e.e. Grantiau/ Trwsio)
  • Tîm Strategaeth Tai

Allanol

Prosesir gwybodaeth dan ddarpariaethau Cytundeb WASPI ar gyfer y Gofrestr Tai Cyffredin.

Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:

  • Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
  • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw