Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Hyfforddiant Ceredigion

Y dibenion yr ydym yn defnyddio'ch data personol ar eu cyfer

Rydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau addysgol a hyfforddiant i chi.

Mae eich data yn cael ei brosesu ar sail tasg gyhoeddus yr Awdurdod ac yn unol â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi o dan Adran 8 Deddf Addysg 1996.

O ran ein darpariaeth cyfathrebu digidol i chi, cynhelir y prosesu ar sail eich caniatâd. Gallwch dynnu'n ôl o hyn ar unrhyw adeg, trwy gysylltu â staff yn y Ganolfan Ddysgu neu drwy e-bostio info@hctceredigion.org.uk.

Beth os na fyddwch chi'n darparu data personol?

Os na roddwch y wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn amdani, gallai hyn olygu na fyddwch yn gallu cofrestru ar ein cyrsiau. Efallai na fyddwn hefyd yn gallu cael yr arian sydd ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cwrs yr ydych am ei astudio i chi.

Pa fath o wybodaeth rydyn ni'n ei defnyddio?

Wrth ddarparu ein gwasanaethau i chi, gallwn gasglu a storio unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu i ni.

Byddwn yn cadw cofnod o'r wybodaeth ganlynol mewn perthynas â'ch data personol:

  • Eich enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion talu (lle bo hynny'n berthnasol)
  • Anabledd, anghenion dysgu ychwanegol neu ofynion iechyd

Yn ogystal, mae data amdanoch chi sy'n cael ei ddiffinio fel data categori arbennig. Mae darparu'r data hwn yn ddewisol a bydd yn cynnwys;

  • Ethnigrwydd
  • Math o anabledd
  • Cyflwr iechyd

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a dderbynnir o ffynonellau eraill?

Os cofrestrwch i ymgymryd â chyfleoedd gwirfoddoli gyda ni, byddwn yn gofyn am dystlythyr. Fel arall, nid ydym yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o ffynonellau eraill.

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Pwy y gellir rhannu eich gwybodaeth â nhw (yn fewnol ac yn allanol)?

Dim ond pan fydd angen i ni wneud hynny yr ydym yn rhannu data personol ac rydym yn darparu'r data lleiaf sy'n angenrheidiol ym mhob achos.

Rydyn ni'n rhannu'ch gwybodaeth gyda:

  • Gwasanaeth TGCh Cyngor Sir Ceredigion os oes angen gwasanaeth megis mynediad i gyfrifiadur rhwydwaith ar gyfer gwirfoddolwyr
  • Estyn
  • Arolygydd addysg a hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru
  • Llywodraeth Cymru (at ddibenion cyllido)

Os ydych chi'n astudio tuag at gymhwyster neu gredydau, bydd angen darparu'ch data personol i'r corff dyfarnu perthnasol i'w achredu.

Rydyn ni'n rhannu'ch gwybodaeth yn fewnol gyda:

  • Ein tiwtoriaid o fewn y gwasanaeth

Fodd bynnag, mae sefyllfaoedd penodol hefyd lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:

  • LLe mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Lle mae datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw