Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Cyllid, Caffael a Craidd

Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol

Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion) darparu gwasanaeth, gan gynnwys:

  • gwneud taliadau i unigolion a darparwyr gwasanaeth
  • casglu debyd uniongyrchol er mwyn setlo anfonebau a roddir i unigolion am wasanaethau a ddarparir gan neu ar ran Cyngor Sir Ceredigion
  • prosesu taliadau a wneir i'r Cyngor i sicrhau dyraniad cywir o fewn ein systemau
  • cyflogres
  • delio â hawliadau
  • caffael
  • asesiadau ariannol
  • dyfarnu grantiau
  • cynnal ein cyfrifon a’n cofnodion ein hunain
  • ceisiadau benthyciad ceir gweithwyr

Mae’r sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth fel y nodir ym mharagraffau 1 b) ac 1 c) Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR DU), fel y nodir isod:

  • tasg gyhoeddus - “mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu er mwyn cyflawni awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd”
  • contract - “mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni contract y mae gwrthrych y data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau ar gais gwrthrych y data cyn ymrwymo i gontract”

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, efallai na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth.

Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?

Efallai y caiff y mathau canlynol o ddata personol eu sicrhau, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Delweddau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Euogfarnau troseddol a throseddau, ac ati.
  • Llofnod
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion addysg a chyflogaeth
  • Manylion hyfforddi
  • Aelodaeth sefydliadau proffesiynol
  • Achrediadau
  • Geirda
  • Delweddau/ffotograffau

A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:

  • Meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor
  • Asiantaethau gwirio credyd
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
  • Banciau a chymdeithasau adeiladu
  • Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
  • Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
  • Cynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
  • Canolwyr
  • Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft, GwerthwchiGymru, Tŷ'r Cwmnïau

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Efallai y trosglwyddir eich gwybodaeth i wlad dramor trwy ei chyhoeddi yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).

Byddwn yn gwneud hyn er mwyn bodloni Rheoliadau Caffael UE mewn perthynas â Hysbysiadau Dyfarnu Contract. Dim ond i ddata sy’n ymwneud ag ymgeiswyr/cyflenwyr llwyddiannus mewn perthynas â chyfleoedd contract a hysbysebir yn OJEU y mae hwn yn berthnasol.

Gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu (yn fewnol ac yn allanol)?

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor
  • Asiantaethau gwirio credyd
  • HMCTS (Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM)
  • Pob banc a chymdeithas adeiladu
  • Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
  • Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
  • Cynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
  • Canolwyr
  • Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft, GwerthwchiGymru, Tŷ'r Cwmnïau

Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:

  • Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
  • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw.