Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Caffael Ariannol

At ba ddibenion rydym yn defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at ddiben(ion) darparu gwasanaethau gan gynnwys:

  • gwneud taliadau i unigolion a darparwyr gwasanaethau
  • casglu debydau uniongyrchol i dalu anfonebau a roddwyd i unigolion am wasanaethau a ddarperir gan, neu ar ran, Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyflogres
  • Trin hawliadau
  • Caffael
  • Asesiadau ariannol
  • dyfarnu grantiau
  • cynnal ein cyfrifon a’n cofnodion ein hunain

Mae’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth fel y manylir ym mharagraffau 1 b) ac 1 c) o Erthygl 6 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), fel y manylir isod:

  • Tasg gyhoeddus - “…mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd”.
  • Contract - “…mae angen prosesu ar gyfer cyflawni contract y mae testun y data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract.”

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, efallai na fyddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth.

Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei defnyddio?

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhywedd
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Lluniau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Euogfarnau troseddol a throseddau ac ati
  • Llofnod
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Manylion hyfforddiant
  • Aelodaeth o sefydliadau proffesiynol
  • Achrediadau
  • Geirdaon
  • Lluniau/ffotograffau

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Meysydd gwasanaethau eraill y Cyngor
  • Asiantaethau gwirio credyd
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
  • Banciau a chymdeithasau adeiladu
  • Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
  • Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
  • Ymgynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
  • Canolwyr
  • Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft GwerthwchiGymru; Tŷ'r Cwmnïau

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Mae’n bosibl y caiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo dramor drwy ei chyhoeddi yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).

Gwnawn hyn er mwyn bodloni Rheoliadau Caffael yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â Hysbysiadau o Ddyfarnu Contract. Dim ond i ddata sy'n ymwneud ag ymgeiswyr/cyflenwyr llwyddiannus mewn perthynas â chyfleoedd contract a hysbysebwyd yn yr OJEU y mae hyn yn berthnasol.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Meysydd gwasanaethau eraill y Cyngor
  • Asiantaethau gwirio credyd
  • GLlTEF (Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF)
  • Pob banc a chymdeithas adeiladu
  • Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
  • Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
  • Ymgynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
  • Canolwyr
  • Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft GwerthwchiGymru; Tŷ'r Cwmnïau.
  • Canolwyr

Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw