Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Cyfreithiol

Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol

Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion) darparu cyngor cyfreithiol gweithredol a chorfforaethol, cynrychiolaeth, cymorth a chefnogaeth i’r Cyngor (gan gynnwys ei holl Wasanaethau).

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw:

  • Rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Tasg gyhoeddus; a
  • Cyflawni contract

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol yn gweithredu dan ac yn cynghori’r Cyngor mewn perthynas ag ystod eang iawn o ddeddfwriaeth, ond gellir cyfeirio’r rhain mewn perthynas â meysydd penodol o’r gyfraith o wneud cais.

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain atom yn methu cyflawni’r gwaith y gofynnwyd amdano.

Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn...

Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Eich anghenion tai
  • Delweddau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Eich cefndir hiliol neu ethnig
  • Safbwyntiau gwleidyddol
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Aelodaeth undeb llafur
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol
  • Data genetig
  • Data biometrig
  • Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati.
  • Datganiadau ysgrifenedig a recordiadau o gyfweliadau a gynhaliwyd
  • Gwybodaeth arall a gesglir wrth ffeilio achos cyfreithiol, ymchwiliad troseddol neu sifil neu achos Llys

A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth gan sefydliadau allanol fel Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol eraill, yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd, trydydd partïon, tystion ac ati sy’n ymwneud ag ymchwiliad hefyd.

Gellir sicrhau’r mathau canlynol o ddata personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Eich anghenion tai
  • Delweddau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Eich cefndir hiliol neu ethnig
  • Safbwyntiau gwleidyddol
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Aelodaeth undeb llafur
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol
  • Data genetig
  • Data biometrig
  • Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati.
  • Datganiadau ysgrifenedig a recordiadau o gyfweliadau a gynhaliwyd
  • Gwybodaeth arall a gesglir wrth ffeilio achos cyfreithiol, ymchwiliad troseddol neu sifil neu achos Llys

Trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad dramor

Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu (yn fewnol ac yn allanol)?

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

Mewnol

Unrhyw Wasanaeth mewnol arall y Cyngor lle y bernir bod hynny’n angenrheidiol.

Allanol

Llywodraeth Cymru, adrannau eraill Llywodraeth y DU, yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd, HMCTS.

Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:

  • Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith:  (archwilio, gorchymyn llys, gweithredu rheoliadol, cais AS, cyrff llywodraethol)
  • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw