Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriad ar Gynlluniau Ynni Ardal Leol

Mae Cyngor Sir Ceredigion, fel Awdurdod Lleol cyfrifol, yn cynnal ymgynghoriadau â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ar ystod eang o faterion. Pan fyddwn yn cynnal ymgynghoriadau, mewn llawer o achosion mae'n ofynnol i ni brosesu data personol. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut ac o dan ba amgylchiadau y mae prosesu o'r fath yn digwydd.

At ba ddibenion rydym yn defnyddio eich data personol

Mewn llawer o achosion, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Awdurdod gynnal ymgynghoriadau, fel y gallwn fod yn sicr ein bod wedi ystyried ystod eang o safbwyntiau wrth wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar y cyhoedd:

  • Lle mae’n ofynnol i ni ymgynghori yn ôl y gyfraith y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau statudol fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
  • Lle mae’n ofynnol i ni ymgynghori yn ôl y gyfraith a bod data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon fydd Erthygl 9 2 (g) GDPR bod prosesu’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd

Bydd yr amodau prosesu budd cyhoeddus sylweddol yn ddibenion statudol a llywodraethol, a chyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal.

Y deddfiadau neu’r rheolau cyfreithiol y dibynnir arnynt yw:

  • Deddf Cydraddoldeb 2010

Lle nad yw'n ofynnol i ni ymgynghori yn ôl y gyfraith, y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu fydd caniatâd, a lle caiff data categori arbennig ei brosesu, y sail gyfreithlon fydd caniatâd penodol. Pan fyddwn yn dibynnu ar ganiatâd ar gyfer prosesu, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd.

Mae Arolwg Ynni Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru - Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn cael ei gynnal i fod yn sail i’r gwaith o gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol a Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru. Bydd manylion cyswllt yn cael eu rhannu gydag Energy Systems Catapult os byddwch yn rhoi caniatâd penodol at y diben hwn. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio data cydraddoldeb a rennir gyda ni i sicrhau bod unrhyw grwpiau ffocws a sefydlir yn cynrychioli’r gymuned.

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni, bydd yn cyfyngu ar y dadansoddiad y gallwn ei wneud o ganlyniadau'r arolwg.

Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei defnyddio?

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Dynodyddion personol sylfaenol
  • Cyfeiriad e-bost
  • Data personol y byddwch yn ei ddatgelu i ni mewn atebion testun rhydd i gwestiynau’r ymgynghoriad
  • Gwybodaeth am gydraddoldeb

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym ond yn casglu data personol yn uniongyrchol oddi wrthych ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu rhannu gyda Chyngor Sir Powys ac Energy Systems Catapult.

Mae sefyllfaoedd penodol lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, megis:

  • Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw