Gan fod Cyngor Sir Ceredigion bellach wedi mabwysiadu dull gweithio hybrid, bydd mwy o ofod ar gael ym mhrif swyddfeydd/adeiladau’r Cyngor. Mae potensial i’r gofod hwn gael ei ddefnyddio mewn sawl gwahanol ffordd. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal arolwg i gasglu barn a syniadau’r cyhoedd ynglŷn â’r ffordd orau o ddefnyddio prif swyddfeydd/adeiladau’r Cyngor at ddibenion eraill.

At ba ddibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i lywio ymchwil ynglŷn â defnyddio swyddfeydd/adeiladau’r Cyngor at ddibenion eraill. Wrth gwblhau’r arolwg yma yn wyneb i wyneb, bydd eich ymateb yn ddienw. Os ydych yn dewis cwblhau’r arolwg ar-lein, bydd ein partner arolygon Zoho yn rhannu eich cyfeiriad ip efo ni. Ble mae hyn yn digwydd, mae’r Cyngor yn prosesu data personol, fel sydd wedi gosod allan yn yr hysbysiad isod.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd a ddarperir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ble mae data categori arbennig yn cael ei phrosesu y sail gyfreithlon bydd bod y prosesu yn angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol (gyda sail yn y gyfraith). Yr amod prosesu o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol fydd cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal (deddfwriaeth fel uchod).

Beth os nad ydych chi’n darparu data personol?

Fel corff cyhoeddus, mae gan y Cyngor ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, a hoffai gasglu gwybodaeth cydraddoldeb i helpu i sicrhau bod ein harolwg yn cwmpasu ystod lawn o safbwyntiau'r gymuned gyfan.

Mae cwblhau adran cydraddoldeb yr arolwg yn ddewisol a bydd y data a gesglir yn cael ei ddileu neu ei ddinistrio ar ôl blwyddyn.

Pa fath o wybodaeth ydyn ni’n ei defnyddio?

Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn cynnal yr ymchwil hwn:

  • Cyfeiriad IP (os yn cwblhau ar-lein)
  • Rhywedd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Eich cefndir o ran hil neu ethnigrwydd
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Gwybodaeth ynglŷn â’ch cyfeiriadedd rhywiol

A ydym yn defnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan ffynonellau eraill?

Os ydych chi'n llenwi'r arolwg yn wyneb i wyneb, bydd eich ymatebion yn ddienw. Os byddwch yn llenwi’r arolwg ar-lein, bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei rannu â ni gan Zoho, sy’n cynnal yr arolwg ar ran Cyngor Ceredigion.

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Os ydych chi’n cwblhau’r arolwg ar-lein, mae’n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r AEE gan ein partner arolwg Zoho, yn amodol ar gytundebau diogelu data priodol Zoho.

Gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu?

Cynhelir yr arolwg hwn ar ran Cyngor Sir Ceredigion gan Zoho. Pan fyddwch chi'n cyrchu gwefan Zoho i gwblhau arolwg, efallai y byddan nhw'n casglu dynodwyr fel cyfeiriad ip at ddibenion gweinyddu eu gwefan a'u gwasanaeth. Mae’r data hwn yn cael ei storio o fewn canolfan ddata’r UE. Mae polisi preifatrwydd Zoho ar gael ar ei wefan (Saesneg yn unig).