Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Diogelu Data a Llywodraethu Gwybodaeth

Mae tîm Diogelu Data a thimau Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion Cyngor Sir Ceredigion yn cyflawni swyddogaethau rheoli cofnodion corfforaethol yr Awdurdod ac yn gyfrifol am gydymffurfiaeth sefydliadol â deddfwriaeth diogelu data'r Deyrnas Unedig. Er mwyn cyflawni’r swyddogaethau hyn rydym yn prosesu data personol yn y modd a nodir isod.

At ba ddibenion rydym yn defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at ddiben(ion):

  • Gweinyddu Ceisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun a wneir o dan Ddeddf Diogelu Data 2018
  • Sicrhau cydymffurfiaeth sefydliadol â’r ddeddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys gweinyddu ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun, gorfodi hawliau testun y data, a gweinyddu’r polisi cadw cofnodion corfforaethol

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:

  • Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol

Cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol fel y nodir yn Neddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU.

Ar gyfer prosesu data categori arbennig y sail gyfreithlon yw

  • Mae prosesu yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd
  • Bydd yr amod prosesu at ddibenion statudol a llywodraethol

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu darparu gwasanaeth i chi, rhoi cefnogaeth, arweiniad neu gymorth mewn perthynas â’ch cais, neu arwain at wneud eich cais yn annilys.

Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei defnyddio?

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad ebost

Wrth ymateb i geisiadau am fynediad at ddata gan y testun, efallai y byddwn yn prosesu unrhyw ddata amdanoch sydd gan Gyngor Sir Ceredigion.

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond hefyd yn cael gwybodaeth gan unrhyw adran berthnasol o Gyngor Sir Ceredigion.

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhywedd
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Eich anghenion o ran tai
  • Lluniau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Eich tarddiad hiliol neu ethnig
  • Barn wleidyddol
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Aelodaeth undeb llafur
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol
  • Data genetig
  • Data biometrig
  • Euogfarnau troseddol a throseddau, ac ati

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

Yn fewnol

Gellir rhannu gwybodaeth o fewn unrhyw adran o Gyngor Sir Ceredigion

Yn allanol

  • Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw