Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Gweithwyr Taliadau Uniongyrchol

Fel rhan o'ch cyflogaeth gan dderbynnydd Taliadau Uniongyrchol, rhaid i'r derbynnydd (a elwir yn Ddefnyddiwr Gwasanaeth o hyn ymlaen) brosesu data personol amdanoch chi. Mae'r hysbysiad hwn yn nodi sut y bydd eich data'n cael ei brosesu gan Ddefnyddiwr y Gwasanaeth.

At ba ddibenion y defnyddir eich data personol

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i weinyddu eich cyflogaeth (er enghraifft i hwyluso taliadau, monitro perfformiad ac ar gyfer gweinyddu gwyliau blynyddol, absenoldeb salwch ac unrhyw faterion disgyblu).

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw perfformiad contract gyda thestun y data.

Pan fydd data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon fydd Erthygl 9 2 (b) GDPR y DU sef Cyflogaeth, Nawdd Cymdeithasol ac Amddiffyniad Cymdeithasol.

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth pan ofynnir amdani, gallai hyn olygu na fydd Defnyddiwr y Gwasanaeth yn gallu gweinyddu eich cyflogaeth.

Pa fath o wybodaeth a ddefnyddir?

Lle bo angen, mae'n rhaid i mi gasglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn gweinyddu eich cyflogaeth

  • Enw, cyfeiriad preswyl a manylion cyswllt gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Dyddiad Geni
  • Manylion ariannol, fel eich Rhif Yswiriant Gwladol, cyfrif banc, cofnodion cyflogres, statws treth, pensiynau, budd-daliadau a gorchmynion llys sy’n berthnasol i gyflogaeth
  • Manylion eich cofnodion iechyd a salwch/absenoldeb
  • Gwybodaeth hawl i weithio
  • Geirdaon a gafwyd gan eich canolwyr
  • Copi o'ch trwydded yrru
  • Gwybodaeth am eich cerbyd preifat lle caiff ei ddefnyddio at ddibenion gwaith, gan gynnwys; rhif cofrestru, gwneuthuriad, model, treth, yswiriant, MOT a gwiriadau diogelwch
  • Hanes gwaith a lleoliad cyflogaeth ddoe a heddiw
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng
  • Cofnodion hyfforddiant, gwybodaeth perfformiad, cymwysterau, gwybodaeth ddisgyblaethol a gwybodaeth sy'n ymwneud â chwynion

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, bydd defnyddiwr y gwasanaeth yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond efallai y bydd hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Cyngor Sir Ceredigion

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhywedd
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif Ffon
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Eich tarddiad hiliol neu ethnig
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol
  • Euogfarnau troseddol a throseddau etc.

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd angen i Ddefnyddiwr y Gwasanaeth rannu eich data gyda’r derbynwyr canlynol:

  • Yr Awdurdod Lleol neu Grŵp Comisiynu Clinigol y GIG sy'n gyfrifol am ariannu'r gofal sydd ei angen
  • Cefnogi sefydliadau sydd wedi’u hawdurdodi gan y cyflogwr a/neu’r awdurdod cyllido i’m cefnogi gyda gweithgareddau rheoli’r gyflogres a gweithwyr
  • Cyfrifwyr a Sefydliadau Cyflogres
  • Sefydliadau byw'n annibynnol neu eiriolwyr anabledd
  • Cwmnïau yswiriant ac ymgynghorwyr cyfreithiol gan gynnwys darparwyr llinellau cymorth a chyfreithwyr
  • Cyflogwyr eraill at ddiben a gweithrediad trosglwyddiadau TUPE yn unig
  • Eu cynrychiolydd enwebedig lle mae eu hiechyd corfforol neu feddyliol yn atal perfformiad digonol o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • CThEF
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Penfro

Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gall fod angen datgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Lle mae'n ofynnol i mi roi’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw