Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Archwilio Mewnol

Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol

Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion): cynnig sicrwydd i’r Cyngor am ei drefniadau rheoli, ei lywodraethu, ei weithgarwch rheoli risg a’i brosesau twyll, h.y.:

  • Cyflawni gofynion cyfreithiol i ddarparu swyddogaeth archwilio mewnol
  • Sicrhau effeithiolrwydd prosesau rheoli risg a llywodraethu
  • Cynnal ymarferion gwerth am arian
  • Hwyluso’r broses o atal a datrys achosion o dwyll, llwgrwobrwyo, llygredd neu wyngalchu arian yn erbyn y Cyngor
  • Ymchwilio i gyfeiriadau a wneir gan y polisi chwythu’r chwiban corfforaethol
  • Ymchwilio i unrhyw afreoleidd-dra posibl a ddarganfyddir yn ystod arferion gwaith neu fel y’u hysbysir gan staff a/neu’r cyhoedd

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw: Adran 151 Deddf Llywodraeth Leol 1972, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014.

Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?

Byddwn yn cael mynediad i wybodaeth sy’n cael ei dal gan yr holl wasanaethau o fewn y Cyngor er mwyn gallu cyflawni ein gwaith, y gallai gynnwys y data personol canlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Statws priodasol
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion ariannol
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion addysg a chyflogaeth
  • Eich anghenion tai
  • Delweddau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Aelodaeth undeb llafur
  • Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati
  • Datganiadau ysgrifenedig a recordiadau o gyfweliadau a gynhaliwyd
  • Gwybodaeth arall a gasglwyd yn ystod archwiliad, ymchwiliad neu ymarfer rhagweithiol

A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu ein gwasanaethau, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth gan unrhyw sefydliad allanol y mae gan y Cyngor gyswllt ag ef, ee Swyddfa Archwilio Cymru, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol eraill, cartrefi preswyl preifat ar gyfer yr henoed, ac ati; a thrydydd partïon, tystion ac ati a fu’n ymwneud ag ymchwiliad.

Efallai y caiff y mathau canlynol o ddata personol eu sicrhau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Statws priodasol
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion ariannol
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion addysg a chyflogaeth
  • Eich anghenion tai
  • Delweddau/ffotograffau
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Aelodaeth undeb llafur
  • Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati
  • Datganiadau ysgrifenedig a recordiadau o gyfweliadau a gynhaliwyd
  • Gwybodaeth arall a gasglwyd yn ystod archwiliad, ymchwiliad neu ymarfer rhagweithiol

Trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad dramor

Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu (yn fewnol ac yn allanol)?

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol:

Mewnol

Unrhyw wasanaeth mewnol arall y cyngor lle y bernir bod hynny’n angenrheidiol.

Allanol

  • Swyddfa’r Cabinet/WAO ar gyfer ymarfer cyfateb data Menter Twyll Cenedlaethol, ac ati.
  • Adrannau eraill y Llywodraeth megis yr heddlu, CThEM, DWP, ac ati.

Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:

  • Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
  • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw