Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Cyllid

I ba ddibenion y byddwn ni’n casglu’ch data personol?

Bydd yr wybodaeth a gasglwn ni amdanoch chi’n cael ei defnyddio at ddiben(ion):

  • Cyfrifo’ch atebolrwydd cywir o ran y Dreth Gyngor a/neu Ardrethi Annomestig

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol a ddarperir gan y ddeddfwriaeth isod. Pan fydd data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon fydd Erthygl 9(2) g) UKGDPR Rhesymau o fudd cyhoeddus sylweddol gyda sail gyfreithiol (deddfwriaeth fel isod). Yr amod prosesu budd y cyhoedd fydd 6 (dibenion statudol a llywodraethol).

  • Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac 1992
  • Gorchymyn (Contractio Allan o Swyddogaethau Bilio Treth, Casglu a Gorfodi) 1996
  • Atal neu ganfod trosedd, gan gynnwys ymhonni’n anwir yn unol â Deddf Twyll 2006

Beth os na fyddwch chi’n darparu data personol?

Os na fyddwch chi’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn ni amdani, mi all olygu eich bod chi’n atebol am dalu’r lefel anghywir o Dreth Gyngor a/neu Ardrethi Annomestig.

Pa fath o wybodaeth fyddwn ni’n ei defnyddio?

Mi allwn gasglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw a/neu enw’r busnes
  • Cyfeiriad
  • Manylion deiliadaeth
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Unrhyw wybodaeth berthnasol arall er mwyn prosesu unrhyw ryddhad neu ostyngiad

Sut fyddwn ni’n defnyddio gwybodaeth a ddaw o ffynonellau eraill?

I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthoch chi, ond mi allwn ni hefyd dderbyn gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:

  • Adrannau eraill y Cyngor
  • Asiantaethau eraill y Llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu a Chynghorau eraill
  • Asiantaethau Credyd
  • Cyflogwyr (lle mae gorchymyn atodi yn berthnasol)

Mae’r mathau o ddata personol a dderbynnir fel uchod.

Trosglwyddo’ch gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gall eich gwybodaeth gael ei rhannu (yn fewnol ac yn allanol?)

Mi allwn ni rannu’ch gwybodaeth chi gyda’r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Adrannau eraill y Cyngor (Gwasanaethau Parcio)
  • Asiantaethau eraill y Llywodraeth megis Cynghorau eraill, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu, Menter Twyll Cenedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru
  • Sefydliadau sy’n bartneriaid megis Cyngor ar Bopeth, Age Cymru neu unrhyw sefydliad arall sy’n gweithredu ar eich rhan
  • Asiantaethau Casglu (Andrew James Gorfodi ac Excel Gorfodi Sifil)
  • Llys Sirol
  • Partneriaid Cymorth Meddalwedd TG – bydd unrhyw fynediad ar gyfer datrys problemau technegol gyda’n systemau’n unig, a dim ond data sy’n gysylltiedig â hynny a welir

Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill yn ogystal lle gall fod angen inni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Pan fydd hi’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Pan fydd y datgelu o fudd hanfodol i’r unigolyn dan sylw