Y diweddaraf ar Storm Darragh yng Ngheredigion
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf i'w chael ar ein tudalen Newyddion.
08 Rhagfyr 2024, 12:15
Mae’r heol A485 rhwng Abermad a Llanfarian a oedd wedi ail-agor nawr ar gau eto.
Rydym yn gobeithio ail-agor y ffordd yn hwyrach yn y pnawn.
Bydd cryn dipyn o falurion a dŵr ar bob ffordd o hyd, a chynghorir y cyhoedd i fod yn ofalus iawn wrth yrru.
Byddwn yn ceisio danfon diweddariadau pellach pan fyddant ar gael a hoffem ddiolch eto i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth barhaus yn ystod y cyfnod heriol hwn.
08 Rhagfyr 2024, 10:10
Mae ein Timau a'n contractwyr allan ar y rhwydwaith yn clirio coed ers golau dydd y bore yma, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y prif ffyrdd (A a B) ac felly gall fod peth amser cyn y gellir ymdrin â’r coed sy'n effeithio ar ffyrdd eraill.
Mae'r ffyrdd canlynol, a oedd ar gau ynghynt oherwydd coed a oedd wedi disgyn, bellach ar agor, gyda gofal:
- A4120 Pontrhydygroes – Pontarfynach
- A485 Llanilar i Lanfarian
- B4342 Stags Head i Langeitho
Bydd cryn dipyn o falurion a dŵr ar bob ffordd o hyd, a chynghorir y cyhoedd i fod yn ofalus iawn wrth yrru.
Byddwn yn ceisio danfon diweddariadau pellach pan fyddant ar gael a hoffem ddiolch eto i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth barhaus yn ystod y cyfnod heriol hwn.
08 Rhagfyr 2024, 8:15
Er bod y gwyntoedd cryfion sy'n gysylltiedig â Storm Darragh wedi llacio, mae nifer sylweddol o goed mawr yn dal i effeithio ar drafnidiaeth ar hyd y rhwydwaith priffyrdd, ac felly mae amodau gyrru yn parhau i fod yn beryglus iawn.
Bydd Timau a chontractwyr y Cyngor allan eto y bore yma i geisio clirio'r coed, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y prif ffyrdd (A a B) ac felly gall fod peth amser cyn y gellir delio â’r coed sy'n effeithio ar ffyrdd eraill.
Hyd yn oed ar ôl clirio'r coed, bydd cryn dipyn o falurion a dŵr llifogydd yn parhau sy'n golygu y dylid cymryd gofal eithafol wrth yrru.
Byddwn yn danfon diweddariadau pellach pan fyddant i’w cael, a hoffem ddiolch eto i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.
07 Rhagfyr 2024, 20:30
Mae rhybudd llifogydd wedi'i chyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar Afon Aeron yn Aberaeron, ar gyfer eiddo a ffyrdd sy'n agos at yr afon yn Aberaeron gan gynnwys swyddfeydd y cyngor a pharc cyhoeddus; ac ar Afon Teifi yn Llanybydder o ran y safle carafanau, eiddo yn Nheras yr Orsaf, Stryd y Bont, Teras Highmeas a Gwesty Highmead Arms.
Gweler y dolenni isod am wybodaeth pellach:
Afon Aeron yn Aberaeron - Rhybuddion Llifogydd
Afon Teifi yn Llanybydder - Rhybuddion Llifogydd
07 Rhagfyr 2024, 15:45
Rydym yn ymwybodol o nifer sylweddol o goed a pholion/ceblau sydd wedi disgyn ledled y Sir sy'n effeithio ar drafnidiaeth ar draws y rhwydwaith priffyrdd, ac mae amodau gyrru yn parhau i fod yn beryglus iawn.
Mae ein timau a'n contractwyr wedi bod allan dros nos a thrwy gydol y dydd clirio coed sydd wedi disgyn er mwyn cadw ffyrdd ar agor, ond mae nifer y coed sydd wedi disgyn, ac sy'n parhau i ddisgyn ynghyd â'r amodau gwaith peryglus yn golygu na fydd modd agor llawer o ffyrdd dros nos, ac felly bydd y coed/ffyrdd hynny'n cael eu blaenoriaethu yfory.
Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth.
07 Rhagfyr 2024, 15:30
Mae rhybudd llifogydd wedi'i chyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Afon Ystwyth yn Rhydyfelin a Llanfarian, yr Afon Aeron yn Nhalsarn a'r Afon Rheidlon mewn ardaloedd isel, ger Aberystwyth.
Disgwylir llifogydd i eiddo ynysig yn Llanfarian, Abermad ac ym Mhont Tanycastell; eiddo rhwng Tafarn y Llew Coch, yr afon a'r B4337 yn Nhalsarn; ac yr A44 yng Ngelli Angharad, heol A4120 a chaeau chwarae Llanbadarn gan gynnwys maes carafannau Pentref Gwyliau Aberystwyth a Fferm Grovener.
Gweler y dolenni isod am wybodaeth pellach:
Afon Ystwyth yn Rhydyfelin a Llanfarian - Rhybuddion Llifogydd
Afon Aeron yn Nhal-sarn - Rhybuddion Llifogydd
Afon Rheidol mewn mannau isel, Aberystwyth - Rhybuddion Llifogydd
07 Rhagfyr 2024, 14:15
Nid yw'r rhybudd tywydd Coch am wynt bellach mewn grym yn dilyn 11:00 heddiw, ond mae'r rhybudd Ambr am wynt yn parhau i fod mewn grym tan 21:00 heno.
Gan fod yr amodau'n parhau i fod yn beryglus, cynghorir trigolion ac ymwelwyr Ceredigion i osgoi teithio sydd ddim yn hanfodol.
Mae criwiau Ceredigion wedi bod yn gweithio dros nos ac yn parhau i weithio ar draws y Sir.
07 Rhagfyr 2024, 09:10
Mae rhybudd llifogydd wedi'i chyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Afon Teifi ym Mhontrhydfendigaid a Llanbedr Pont Steffan.
Disgwylir llifogydd i eiddo wrth ymyl ac i'r gogledd o Afon Teifi ym Mhontrhydfendigaid, gan gynnwys Stryd y Bont. Hefyd, i eiddo yn ffinio ac i'r gogledd o Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys yr archfarchnad a'r ganolfan hamdden.
Gweler y dolenni isod am wybodaeth pellach:
Rhybydd Llifogydd: Afon Teifi ym Mhontrhydfendigaid
Rhybydd Llifogydd: Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan
06 Rhagfyr
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Coch am wynt ar gyfer Ceredigion a fydd mewn grym o 03:00 tan 11:00 ar ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024. Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld gwyntoedd a fydd yn cyrraedd 90mya neu mwy yn gynnar ar fore Sadwrn.
05 Rhagfyr
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Ambr am wynt a fydd mewn grym o 03:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr tan 21:00 ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
Mae hefyd rhybudd tywydd Melyn am wynt rhwng 15:00 dydd Iau 05 Rhagfyr tan 06:00 dydd Sul 08 Rhagfyr, 2024, a rhybudd tywydd Melyn am law rhwng 15:00 Dydd Gwener 06 Rhagfyr tan 12:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
Cymorth Ariannol a Chymorth Aelwydydd
Rhagor o wybodaeth ar y dudalen Cymorth Costau Byw.
Gwobrau Caru Ceredigion 2024
I weld y rhestr o gategorïau a sut i gystadlu ewch i dudalen Gwobrau Caru Ceredigion.
Ein Gwasanaethau
Newyddion a Digwyddiadau
Cymorth Costau Byw
Cymorth Costau BywLlwybr Arfordir Ceredigion
Llwybr Arfordir CymruYmgysylltu ac Ymgynghoriadau
Ymgysylltu ac YmgynghoriadauNewyddion
PERYGL - Disgwylir tywydd eithafol yng Ngheredigion yn dilyn rhybudd tywydd Coch am wyntoedd cryfion
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Coch am wynt ar gyfer Ceredigion a fydd mewn grym o 03:00 tan 11:00 ar ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024. Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld gwyntoedd a fydd yn cyrraedd 90mya neu mwy yn gynnar ar fore Sadwrn.
06/12/2024
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2024
Mae rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2024 wedi’i datgelu’n swyddogol, gyda rhestr drawiadol o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynrychioli 12 categori.
05/12/2024
Rhybudd Ambr am wyntoedd cryfion wrth i Storm Darragh daro Ceredigion
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Ambr am wynt a fydd mewn grym o 03:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr tan 21:00 ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
05/12/2024