Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Adsefydlu Ffoaduriaid Ceredigion

Y dibenion yr ydym yn defnyddio eich data personol ar eu cyfer

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio i'n galluogi i roi cyngor a chymorth penodol i chi a'ch helpu i gofrestru ar gyfer budd-daliadau a gwasanaethau.

Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth i wella ansawdd ein gwasanaethau, i gynllunio gwasanaethau newydd ac i ymchwilio i unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gennych amdanom ni.

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw Erthygl 6(1)(e) o Reoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data – mae prosesu'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y Cyngor.

Ac Erthygl 9(2)(g) o Reoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data – mae prosesu'n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd.

Beth os nad ydych yn rhoi data personol?

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu rhoi'r cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnoch i gofrestru ar gyfer budd-daliadau a gwasanaethau.

Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?

Efallai y byddwn yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Eich anghenion o ran tai
  • Lluniau/ffotograffau
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Eich tarddiad ethnig neu hiliol
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Gwybodaeth am eich cyfeiriadedd rhywiol
  • Data biometrig

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Llywodraeth y DU
  • Llywodraeth Cymru
  • Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion
  • Coleg Ceredigion
  • Addysg Oedolion Cymru
  • Aberaid

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Eich anghenion o ran tai
  • Lluniau/ffotograffau
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Eich tarddiad ethnig neu hiliol
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Gwybodaeth am eich cyfeiriadedd rhywiol
  • Data biometrig

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gall eich gwybodaeth gael ei rhannu

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r bobl ganlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion
  • Llywodraeth y DU
  • Llywodraeth Cymru
  • Coleg Ceredigion
  • Addysg Oedolion Cymru
  • Aberaid
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Cyngor ar Bopeth
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Awdurdodau Lleol Eraill (os symudwch i sir arall)

Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:

  • Lle mae'n ofynnol i ni roi’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Pan fydd angen datgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ganfod trosedd
  • Lle mae datgelu er budd hanfodol y person dan sylw