Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Hysbysiad Preifatrwydd Dronau a Delweddau or Awyr

Mae ein rhwymedigaethau a’n hymrwymiadau craidd o ran diogelu data wedi’u nodi yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Ceredigion.

Mae'r hysbysiad hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol am breifatrwydd ac mae’n nodi sut mae data personol a ddaliwyd gan ddelweddau o gamerâu ar ddronau yng Nghyngor Sir Ceredigion yn cael ei ddefnyddio a'i ddiogelu.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithredu o dan Reoliadau Categorïau Agored neu Reoliadau Categorïau Penodol yr Awdurdod Hedfan Sifil fel y bo’n briodol.

Gwneir asesiadau risg cyn y bydd unrhyw ddrôn yn cael ei hedfan ac rydym yn dilyn y gweithdrefnau llym sydd wedi’u cynnwys yn y llawlyfr gweithrediadau. Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil wedi cymeradwyo’r gweithdrefnau hyn gan nodi eu bod yn ddiogel.

Pan fydd y Cyngor yn hedfan dronau, bydd yn defnyddio peilotiaid sydd wedi’u cymhwyso i ddefnyddio systemau awyr di-griw. Mae pob un wedi pasio asesiad theori a phrawf hedfan gyda sefydliad y mae’r Awdurdod Hedfan Sifil wedi’i gymeradwyo. Mae gan y gweithredwr gyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod pob hediad yn digwydd o fewn y gyfraith ac o fewn unrhyw ddiwygiadau i’r gyfraith.

Mae hyn yn berthnasol i'r defnydd a wneir o Gerbydau Awyr Di-griw ar bob safle sy'n eiddo i Gyngor Sir Ceredigion yn ogystal ag unrhyw waith y mae Cyngor Ceredigion yn ei wneud o ran Cerbydau Awyr Di-griw ar safleoedd trydydd parti.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio Cerbydau Awyr Di-griw fel rhan o'i swyddogaethau swyddogol i fonitro y cydymffurfir â’r canlynol:-

  • Safonau Masnach
  • Safonau Amgylcheddol
  • Rheoliadau o ran Gorfodi Cynllunio a Rheoli Adeiladu
  • Is-ddeddfau Lleol

Dyma rai enghreifftiau eraill lle bydd yr awdurdod yn defnyddio’r dronau:-

  • Arolygiadau Tir, Fideos Hyrwyddo
  • Cynllunio at Argyfyngau /  Argyfyngau Sifil Posibl
  • Diogelwch ar feysydd chwaraeon
  • Archwiliadau diogelwch

Bydd y dronau neu’r Cerbydau Awyr Di-griw yn cael eu defnyddio'n ddiogel ger y safle ac fel rhan o'r swyddogaethau swyddogol, gallant fonitro'r gweithgareddau/gweithrediadau sy’n mynd rhagddynt.

Ni fyddwn yn casglu mwy o wybodaeth na’r hyn y mae ei angen arnom i ddarparu ein gwasanaeth.

Bydd y delweddau a’r recordiadau fideo y bydd y dronau yn eu dal yn cael eu storio’n ddiogel.

Bydd unrhyw ddelweddau neu recordiadau nad ydynt yn berthnasol i ddiben yr hediad yn cael eu dinistrio'n ddiogel.

Dim ond delweddau yr ydym yn eu casglu. Nid ydym yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol fel enwau, manylion cyswllt na chyfeiriadau.

Rydym yn casglu delweddau o ddronau ar gyfer yr enghreifftiau canlynol:

  • ymchwilio i strwythurau yr honnir eu bod yn beryglus
  • delweddau o'r awyr cyn dechrau ar brosiectau seilwaith ac ar ôl eu cwblhau
  • diogelwch ar feysydd chwaraeon
  • cynllunio at argyfyngau / ymateb i argyfyngau
  • creu modelau digidol 3D realistig ar ffurf lluniau, fideos hyrwyddo
  • cynorthwyo â’r gwaith o nodi’r atgyweiriadau y mae angen eu gwneud i asedau sy'n eiddo i'r Cyngor
  • gwaith gorfodi o ran safonau masnach
  • gwaith monitro amgylcheddol
  • gwaith gorfodi o ran Gorchmynion Diogelwch y Cyhoedd (PSPO)
  • gwaith gorfodi o ran Tipio Anghyfreithlon a’r Is-ddeddfau eraill
  • patrolio mannau lle ceir llawer o broblemau o ran Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio delweddau i helpu i ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â Gorfodi Cynllunio a Rheoli Adeiladu. Defnyddir dronau yn yr amgylchiadau hyn er mwyn medru gweld datblygiadau a safleoedd adeiladu ac er mwyn monitro ac ymchwilio i achosion posibl / honedig o dorri’r rheoliadau cynllunio ac adeiladu.

  • Mae deddfwriaeth lem ynghlwm wrth unrhyw achos o wyliadwriaeth gan awdurdod cyhoeddus. Yr enw ar y ddeddfwriaeth hon yw Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 neu RIPA ac mae’n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol 2000 (yr ECHR)
  • Rhaid i Awdurdodau Lleol hefyd gydymffurfio â deddfwriaeth newydd sef Deddf Diogelu Rhyddidau 2012
  • Mae pob achos o wyliadwriaeth yn cael ei oruchwylio ymhellach gan Swyddfa'r Comisiynwyr Arwylio

Bydd unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig ag ymyrraeth gyfochrog neu drydydd parti, ond nad yw'n wybodaeth angenrheidiol, yn cael ei hanwybyddu ar unwaith a bydd yn cael ei thynnu o unrhyw ymchwiliad. Caiff gwybodaeth breifat ei rheoli’n llym iawn a chaiff ei hadnabod fel gwybodaeth ymyrraeth gyfochrog neu wybodaeth trydydd parti. Gellid ystyried bod unrhyw wybodaeth o'r fath, a geir yn ystod y gwaith o gadw gwyliadwriaeth, yn wybodaeth ymwthiol. Mae’r ddeddfwriaeth yn llym iawn o ran gwahardd unrhyw Awdurdod Lleol rhag cadw gwyliadwriaeth ymwthiol.

Bydd unrhyw achosion o fynd yn groes i’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â chadw gwyliadwriaeth yn cael eu hadrodd i Swyddfa'r Comisiynydd Arwylio a bydd yr awdurdod a roddwyd yn cael ei adolygu a'i ailystyried.

Bydd y defnydd o dronau gan Gyngor Sir Ceredigion yn cael ei gyfyngu i weithgareddau arolygu a monitro AGORED yn unol â’n dyletswyddau swyddogol.

Bydd unrhyw gynnyrch tystiolaethol y bydd y dronau yn ei sicrhau yn cael ei drin yn unol â’r gweithdrefnau datgelu ynghylch cadw deunyddiau a ddefnyddiwyd a deunyddiau nas defnyddiwyd yn y ffordd arferol. Caiff unrhyw ddata arall a gasglwyd nad yw’n rhan o unrhyw achos ei ddinistrio o fewn 30 diwrnod o gael ei gasglu.

Dyma’r sail gyfreithlon sydd gennym ar gyfer casglu a defnyddio delweddau o ddronau:

  • mae’r gwaith prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i'r rheolydd

Efallai y byddwn ni weithiau yn rhannu'r wybodaeth yr ydym wedi'i chasglu, lle bo hynny’n angenrheidiol, yn gyfreithlon ac yn deg. Efallai y byddwn yn rhannu delweddau a dynnwyd gan ddronau a chamerâu SLR at y dibenion canlynol:

  • Rhannu’r delweddau gyda’n partneriaid lle bo hynny’n angenrheidiol at ddibenion busnes
  • Rhannu'r delweddau’n gyhoeddus fel rhan o ddeunydd hyrwyddo – yn yr achos hwn, byddai unrhyw ddynodyddion personol, fel rhifau cofrestru ceir yn cael eu dileu neu eu cuddio

Mae gennym fesurau diogelwch priodol ar waith i atal gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli yn ddamweiniol, na’i defnyddio neu ei chyrchu mewn ffordd anawdurdodedig. Rydym yn cyfyngu mynediad at wybodaeth bersonol i’r rhai hynny sydd â gwir angen gwybod oherwydd eu gwaith. Bydd y rhai sy'n prosesu'r delweddau a ddaw o ddronau yn gwneud hynny mewn modd awdurdodedig yn unig ac maent yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd sydd arnynt o ran cyfrinachedd.

Mae gennym hefyd weithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw ddigwyddiadau a amheuir sy’n ymwneud â diogelwch data a byddwn yn eich hysbysu chi a'r rheoleiddiwr priodol o unrhyw ddigwyddiad lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Bydd yr holl weithredwyr dronau yn cydymffurfio â rheoliadau'r Awdurdod Hedfan Sifil:

Bydd y gweithredwyr dronau yn gwisgo siacedi llachar a byddant yn cario bathodynnau adnabod i ddangos eu bod yn dod o Gyngor Sir Ceredigion.

Cysylltwch â’r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth Corfforaethol i arfer unrhyw un o'ch hawliau. Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm os oes gennych gŵyn ynghylch pam fod eich gwybodaeth wedi cael ei chasglu, sut y mae eich gwybodaeth wedi'i defnyddio ac am ba mor hir yr ydym wedi cadw’r wybodaeth.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data drwy e-bost data.protection@ceredigion.gov.uk neu drwy ysgrifennu at Swyddog Diogelu Data Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.

Mae GDPR y Deyrnas Unedig hefyd yn rhoi'r hawl i chi gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef yr awdurdod goruchwylio sy'n gyfrifol am reoleiddio a monitro'r rhwymedigaethau deddfwriaethol yn y Deyrnas Unedig a gallwch chi gysylltu â nhw ar 03031 231113.

Gwefan : ico.org.uk