Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Fel rhan o’i hagenda Ffyniant Bro, mae llywodraeth y DU wedi rhoi cyllid i awdurdodau lleol y gellir ei ddarparu i randdeiliaid cymwys sy’n gwneud cais amdano. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithredu fel yr asiantaeth arweiniol ar gyfer y rhaglen o fewn ardaloedd Powys a Cheredigion. Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y caiff eich data personol ei brosesu os byddwch yn gwneud cais am arian grant o dan y rhaglen.

At ba ddibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol

Byddwn yn defnyddio eich data personol at y dibenion canlynol:

  • Asesu ceisiadau am gymorth grant i gyflawni gweithgareddau cymwys o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU
  • Darparu cymorth arian grant er mwyn cyflawni gweithgareddau cymwys o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
  • Prosesu taliadau ariannol cyllid grant
  • Casglu data ar gyfer monitro ac adrodd ar gyflawniad a llwyddiant gweithgareddau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
  • Gweinyddu, monitro a gwerthuso’r cynllun

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth:

  • Erthygl 6 (1) e GDPR y DU - Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol

Mae’r ddeddfwriaeth berthnasol yn cynnwys:

  • Deddf Lleoliaeth 2011
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Beth os nad ydych chi’n darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu darparu cyllid prosiect.

Pa fath o wybodaeth ydyn ni’n ei defnyddio?

Gall y wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych gynnwys gwybodaeth bersonol, megis:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Eich amgylchiadau ariannol

A ydyn ni’n defnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, byddwn ond yn casglu data personol yn uniongyrchol gennych chi, ac ni fyddwn yn cael gwybodaeth amdanoch chi oddi wrth unrhyw ffynhonnell arall.

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu (yn fewnol ac yn allanol)?

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

Yn fewnol

  • Staff o fewn y Gwasanaeth Economi ac Adfywio a meysydd gwasanaeth eraill
  • Cyllid a Chaffael Cyngor Sir Ceredigion
  • Sefydliadau Partneriaeth Economaidd Leol Cynnal y Cardi - Aelodau ac Ymgynghorwyr

Yn allanol

  • Cyngor Sir Powys
  • Adrannau Llywodraeth y DU
  • Cyrff neu Asiantaethau Cyhoeddus a Noddir gan lywodraeth y DU
  • Ymgynghorwyr ac Aelodau Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
  • Sefydliadau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch cais

Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Pan fo’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Pan fo angen datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw am 7 mlynedd ar ôl taliad terfynol y grant.