Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Harbwr

At ba ddibenion rydym yn defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at ddiben(ion):

  • Darparu cyfleuster angori / lansio (ceisiadau a darpariaeth angori yn yr haf a’r gaeaf a lansio ymwelwyr)

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sy’n berthnasol i’r statudau isod:

  • Deddf Harbwr Aberystwyth 1987
  • Deddf Harbwr Aberaeron 1807
  • Deddf Harbwr Ceinewydd 1835

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu darparu gwasanaeth angori i chi.

Pa fath o wybodaeth ydyn ni'n ei defnyddio?

Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn.

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad ebost;
  • Manylion banc/talu
  • Manylion eich cwch
  • Rhif cofrestru cerbyd
  • Lluniau/ffotograffau
  • Manylion yswiriant

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Tîm Gwasanaethau Ariannol Cyngor Sir Ceredigion

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Eich amgylchiadau ariannol

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Mae sefyllfaoedd penodol lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, megis:

  • Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Pan fo datgelu er budd hanfodol y person dan sylw