Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cartrefi i Wcráin

Trosolwg

Mae Cyngor Sir Ceredigion a’u partneriaid yn y sector cyhoeddus (Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Cymru) yn rheolwyr data ar gyfer unrhyw ddata personol y mae’n ei gasglu, ac unrhyw ddata personol a rennir gyda nhw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o dan gynllun Cartrefi i Wcráin.

Pwrpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw dweud wrthych sut y bydd Cyngor Sir Ceredigion a phartneriaid yn prosesu eich data personol at y dibenion a rennir ganddynt i gyflawni’r cynllun a’r amcan cyffredin o roi cartrefi i’r rheini sy’n ffoi o’r rhyfel yn Wcráin. Mae gennych hawliau ynglŷn â sut y caiff eich data ei brosesu. Rydym yn eich hysbysu yma beth yw'r hawliau hynny a sut y gallwch eu harfer.

Mae Cyngor Sir Ceredigion a phartneriaid wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Gan fod gan y sefydliadau gyfrifoldebau ac atebolrwydd statudol arbennig, gallant gyhoeddi hysbysiadau preifatrwydd ar wahân lle bo’n briodol sy’n esbonio ymhellach sut y defnyddir eich data personol at eu dibenion priodol.

Dim ond pan fydd gennym sail gyfreithiol briodol i wneud hynny y caniateir i ni ddefnyddio, casglu a rhannu gwybodaeth bersonol. Dim ond er mwyn cyflawni ein swyddogaethau cyfreithiol a swyddogol y byddwn yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol. Dim ond pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol a lle mae’n angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

Pa ddata personol rydym yn ei brosesu

Mae eich data personol yn cael ei brosesu a’i ddefnyddio i gyflawni’r cynllun Cartrefi i Wcráin, at ddiben cefnogi dinasyddion Wcráin yn ystod y broses gyrraedd ac am gyfnod unrhyw drefniadau noddi yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys darparu a rheoli gwasanaethau cymorth hanfodol i’r rheini sy’n cyrraedd Cymru, a chynnal gwiriadau diogelu angenrheidiol. Mae’r data rydym yn ei brosesu yn cynnwys:

Ar gyfer Dinasyddion Wcráin

Eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, data demograffig, statws fisa, anghenion tai a manylion eich parti teithio.

Ar gyfer Noddwyr

Rydym yn prosesu eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, data demograffig a manylion am eich eiddo. Efallai y bydd angen i ni hefyd brosesu a defnyddio data personol am eraill, fel aelodau o'ch aelwyd neu eraill sy'n byw yn eich eiddo.

Cynigion o Gymorth

Rydym yn prosesu eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, data demograffig a manylion am eich eiddo. Efallai y bydd angen i ni hefyd brosesu a defnyddio data personol am eraill, fel aelodau o'ch aelwyd neu eraill sy'n byw yn eich eiddo.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu'r data ac at ba ddiben

Byddwn yn rhannu data â thrydydd partïon, megis partneriaid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a chyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae partneriaid y sector cyhoeddus yn cynnwys:

  • Llywodraeth Cymru, sy'n rhannu manylion dinasyddion Wcráin a wnaeth gais am fisa, a'r noddwyr a enwir drwy gynllun Cartrefi i Wcráin. Byddant hefyd yn rhannu manylion cynigion o gymorth gydag awdurdodau lleol gan gynnwys cynigion llety
  • Awdurdodau Lleol, i roi cymorth i ddinasyddion Wcráin a'r gwesteiwyr yn eu hardaloedd. Er enghraifft, gyda mynediad i lety, addysg a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn eu galluogi i gynnal gwiriadau eiddo a gwiriadau’r gwasanaeth datgelu a gwahardd
  • Byrddau Iechyd, i gysylltu â dinasyddion Wcráin i drefnu sgriniadau iechyd (ar gyfer twbercwlosis yn bennaf) a threfnu cofrestru gyda meddyg teulu a thriniaethau meddygol eraill yn ôl yr angen
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru, fel proseswyr data ar ein rhan, ar gyfer trosglwyddo a rhannu eich data personol yn ddiogel rhyngom ni, awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd yng Nghymru

Lle mae cynigion o gymorth wedi’u rhoi, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth â dinasyddion unigol Wcráin neu bobl sy’n gweithredu fel eu noddwyr yng Nghymru fel y gallant gael gafael ar y cymorth a gynigir. Lle bo angen, byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth bersonol â phartneriaid yn y sector elusennol a’r sector preifat a fydd yn darparu gwasanaethau ar ein rhan i gefnogi dinasyddion Wcráin, neu lle mae'n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Sut caiff eich data ei drin

Mae data personol a roddir i ni yn cael ei storio ar weinyddion diogel. Bydd data personol, adnabyddadwy a rennir gyda’n sector cyhoeddus a phartneriaid eraill ond yn cael ei drosglwyddo gan ddefnyddio systemau trosglwyddo data diogel achrededig. Dim ond data sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi cymorth i ddinasyddion Wcráin fydd yn cael ei rannu.

Bydd data personol adnabyddadwy a gedwir gan Gyngor Sir Ceredigion yn cael ei gadw am gyfnod y cynllun noddi, ac am gyfnod o 7 mlynedd wedi hynny. Gall data gael ei gadw am gyfnodau hwy, gan gynnwys gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, lle mae rhwymedigaeth statudol neu ofyniad parhaus i wneud hynny. Bydd y data’n cael ei ddinistrio’n ddiogel unwaith y penderfynir nad oes ei angen mwyach.

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r data

Rydym yn defnyddio’r sail gyfreithlon ganlynol o dan GDPR y DU i brosesu data personol:

  • Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU – mae prosesu’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio yn y rheolydd

Gallwn hefyd brosesu categorïau arbennig o ddata personol a all gynnwys gwybodaeth am gredoau gwleidyddol, iechyd, cyfeiriadedd rhywiol, credoau crefyddol, a biometreg. Lle rydym yn gwneud hynny ein sail gyfreithlon yw:

  • Erthygl 9(2)(g) o GDPR y DU – mae prosesu’n angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd

Eich hawliau, er enghraifft: mynediad, cywiro, dileu

O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a roddwch i ni i’n galluogi i’ch cefnogi, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • i gael gafael ar gopi o'ch data eich hun
  • i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau)
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaerlleon, SK9 5AF neu dros y ffôn ar 01625 545745 neu 0303 123 1113. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Information Commissioner’s Office.

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a roddir yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â ni drwy fynd i’r dudalen Cysylltwch â Ni.