Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Hysbysiad Preifatrwydd Cynnal a Chadw Priffyrdd

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion rwymedigaeth statudol i gynnal a chadw rhwydwaith y priffyrdd o fewn y Sir sydd o dan reolaeth yr awdurdod lleol. Fel rhan o’n dyletswyddau, rydym yn ymateb i adroddiadau am gyflwr y briffordd gan y cyhoedd ac yn cynnal archwiliadau, ymchwiliadau a gwaith adfer lle bo angen. Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau, mae’n rhaid i ni brosesu data personol, ac mae’r ffyrdd rydym yn gwneud hyn wedi’u nodi yn yr hysbysiad isod.

At ba ddibenion rydym yn defnyddio eich data personol

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i:

  • Ymateb i geisiadau am wasanaethau priffyrdd a gyflwynir trwy system atgyfeirio CLIC ar-lein y Cyngor
  • Cynorthwyo'r adran yn ei hymateb i bryderon am y ffyrdd
  • Asesu a bod yn sail i ymchwiliadau i hawliadau yn erbyn y Cyngor mewn perthynas â phriffyrdd a fabwysiadwyd
  • Ymateb i ymholiadau ynghylch contractwyr sy'n gweithio i'r Cyngor
  • Hwyluso trwyddedu a gorfodi yn unol â Deddf Priffyrdd 1980
  • Cynorthwyo'r Awdurdod i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ffyrdd (lle byddwch yn rhoi gwybod i ni am ddiffyg ar wyneb y ffordd)

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:

Mae prosesu’n angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol (Erthygl 6 (e) GDPR y DU (deddfwriaeth fel isod)

Y deddfiadau neu’r rheolau cyfreithiol y dibynnir arnynt yw:

  • Deddf Priffyrdd 1980
  • Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991

Ar hyn o bryd mae'r Awdurdod yn treialu'r defnydd o wasanaeth archwilio ffyrdd ac asedau sy'n cael ei wella gan AI o'r enw Smart Vision, sydd wedi'i leoli yn y DU. Mae'r system hon yn dibynnu ar gamerâu yn ein cerbydau cynnal a chadw ffyrdd yn recordio lluniau o wyneb y ffordd. Gall fod recordiadau damweiniol o unigolion a defnyddwyr ffyrdd o ganlyniad i'r broses hon, fodd bynnag, mae lluniau o unigolion a phlatiau trwydded ac ati yn cael eu gwneud yn aneglur yn awtomatig gan y feddalwedd, ac ni chânt eu cadw am fwy na 90 diwrnod. Nid yw'r system wedi'i chysylltu ag unrhyw system adnabod wynebau na system ANPR ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben o'r fath, ac ni chaiff lluniau a recordiwyd yn ddamweiniol o unigolion na phlatiau trwydded eu defnyddio i hyfforddi'r injan AI sylfaenol.

Mae arwyddion priodol wedi'u gosod yn ein cerbydau i hysbysu defnyddwyr ffyrdd eraill bod lluniau'n cael eu recordio, ac mae camerâu wedi'u cyfeirio tuag at wyneb y ffordd.

Beth os na fyddwch yn rhoi data personol

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Pa fath owybodaeth ydyn ni’n ei defnyddio?

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyferiad
  • Rhif ffôn
  • Cyferiad e-bost
  • Lluniau/ffotograffau

Mewn perthynas â hawliadau yswiriant:

  • Rhif cofrestru TAW
  • Manylion trydydd partïon
  • Manylion cofrestru cerbyd a manylion perchennog cofrestredig
  • Rhifau polisi yswiriant
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Dyddiad geni

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Tîm Cyswllt Cwsmeriaid Cyngor Sir Ceredigion
  • Tîm Cwynion Cyngor Sir Ceredigion
  • Tîm Yswiriant Cyngor Sir Ceredigion
  • Cofrestrfa Tir

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Lluniau/ffotograffau
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Lluniau/ffotograffau

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

Yn fewnol

  • Tîm Cyswllt Cwsmeriaid Cyngor Sir Ceredigion
  • Tîm Cwynion Cyngor Sir Ceredigion
  • Tîm Yswiriant Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaeth Datblygu Priffyrdd Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwasanaethau Economi ac Adfywio Cyngor Sir Ceredigion

Yn allanol

  • Asiantiaid Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
  • Yswirwyr y Cyngor
  • Contractwyr Torri Gwair

Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor roi’r wybodaeth yn ôl y gyfraith:
    • Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
    • Lle mae datgelu er lles hanfodol y person dan sylw