Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd TGCh Corfforaethol

Y dibenion yr ydym yn defnyddio eich data personol ar eu cyfer

Mae Gwasanaeth TGCh Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol am reoli a gweinyddu systemau TG yr Awdurdod, yn ogystal â rheoli seilwaith TG yr Awdurdod. Er mwyn cyflawni'r swyddogaethau hyn, mae'n rhaid i ni brosesu data personol fel y nodir yn yr hysbysiad isod.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i:

  • Greu cyfrif defnyddiwr
  • Rhoi cymorth i aelodau'r cyhoedd, cynghorwyr, defnyddwyr gwasanaethau, defnyddwyr a meysydd gwasanaethau
  • Cynnal cofnodion mynediad/defnydd ffôn
  • Mynediad i wefan(nau) corfforaethol
  • Rhoi cymorth i feysydd gwasanaethau
  • Darparu gwasanaethau teleffoni i'r Awdurdod
  • Adrodd system gwybodaeth busnes
  • Rheoli ansawdd data

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich gwybodaeth yw

  • Erthygl 6 e) mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol

Pan fydd data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon fydd:

  • Erthygl 9 (2) g) rhesymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd

Yr amod prosesu budd cyhoeddus sylweddol fydd:

  • Dibenion statudol a llywodraethol
  • Cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal

Y deddfiadau neu'r rheolau cyfreithiol y dibynnir arnynt yw:

  • Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron
  • Diogelu (Deddf Addysg, diogelwch yn yr ysgol)

Beth os nad ydych yn rhoi data personol?

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu darparu gwasanaethau i chi, megis mynediad i'n rhwydwaith neu seilwaith TG.

Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?

Efallai y byddwn yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyflogaeth
  • Lluniau/ffotograffau
  • Data lleoliad
  • Cyfeiriad IP
  • Cenedligrwydd
  • Ethnigrwydd

Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Heddluoedd
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau lleol eraill
  • Adrannau eraill y Cyngor

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Lluniau/ffotograffau
  • Cyfeiriad IP
  • Data lleoliad

Trosglwyddo eich data dramor

O ran y defnydd o systemau penodol yn Ystâd Microsoft yr Awdurdod, mae’n bosibl y bydd eich data’n cael ei drosglwyddo’n rhyngwladol.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r derbynwyr canlynol/Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Yn fewnol

  • Archwilio
  • Tîm gwybodaeth perfformiad

Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:

  • Lle mae gofyn i'r Cyngor roi'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Pan fydd angen datgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ganfod trosedd
  • Lle mae datgelu er budd hanfodol y person dan sylw