Skip to main content

Ceredigion County Council website

Hysbysiad Preifatrwydd Cofrestriadau Sifil

At ba ddibenion y byddwn ni’n defnyddio eich data personol?

Mae’r Gwasanaeth Cofrestru Sifil yn casglu gwybodaeth oddi wrth unigolion sydd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth at ddibenion cofrestru sifil.

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch chi yn cael ei defnyddio at y diben canlynol:

  • Creu a chadw cofnod cywir o enedigaethau, priodasau a marwolaethau.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw:

  • Cyflawni ein rhwymedigaethau yn unol â’n tasg gyhoeddus fel y nodir yn y ddeddfwriaeth ganlynol:
    • Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953
    • Deddf Priodasau 1949
    • Deddf Partneriaethau Sifil 2004

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Mae’n rhaid i unigolion ddarparu data personol er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a nodwyd uchod. Mae’n drosedd i beidio â darparu’r wybodaeth (h.y. i gofrestru genedigaeth neu farwolaeth).

Pa fath o wybodaeth ydym ni’n ei ddefnyddio?

Gallwn gasglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhywedd
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc/talu
  • Lluniau/ffotograffau

A ydym yn defnyddio gwybodaeth a dderbyniwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthoch chi yn unig ac nid ydym yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi oddi wrth unrhyw ffynhonnell arall.

Trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad dramor

Ni chaiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?

Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai y byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau’r llywodraeth, adrannau’r awdurdod lleol a chyrff cofrestru proffesiynol, pan fo hynny’n briodol. Gweler rhestr gynrychioliadol isod:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Y Swyddfa Gartref (Fisâu a Mewnfudo’r Deyrnas Unedig (Mewnfudo a Gorfodi))
  • Crwner Ei Fawrhydi
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Y Cyngor:
    • Yr Adran Addysg
    • Adran Treth y Cyngor
    • Swyddfa Cofrestru Etholiadol
    • Y Bwrdd Diogelu Lleol
    • Refeniw a Budd-daliadau

Mae yna sefyllfaoedd penodol lle gall fod angen i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Pan fydd hi’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith:
    • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
    • Pan fydd y datgelu o fudd hanfodol i’r person dan sylw