Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Gwasanaethau Etholiadol
I ba ddiben yr ydym yn defnyddio eich data personol?
Bydd yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:
- gwirio eich hawl i gofrestru i bleidleisio
 - cynnal y Gofrestr Etholiadol, gan gynnwys pleidleiswyr trwy ddirprwy a phleidleiswyr trwy'r post
 - darparu rhestr o bleidleiswyr cymwys at ddibenion canfasio i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol sy'n ymgeisio mewn etholiadau
 
Os byddwch yn llenwi eich ffurflen Cofrestru Etholiadol Unigol ar-lein, bydd y data y byddwch yn eu cyflwyno, er mwyn gwirio eich hunaniaeth, yn cael eu prosesu gan y Gwasanaeth Digidol - Cofrestru Etholiadol Unigol, a reolir gan Swyddfa'r Cabinet. Yn rhan o'r broses hon, bydd eich data yn cael eu rhannu â'r Adran Gwaith a Phensiynau a chyflenwyr Swyddfa'r Cabinet, sy'n broseswyr data i'r Gwasanaeth Digidol - Cofrestru Etholiadol Unigol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar dudalen Privacy notice y Llywodraeth.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013. Mewn achosion o baru data, y sail gyfreithiol yw i gydymffurfio â'n rhwymedigaeth i gynnal cofrestr sydd mor gyflawn â phosib o dan Reoliad 23 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001.
Beth os na fyddwch yn cyflwyno eich data personol?
Os na fyddwch yn cyflwyno'r wybodaeth y mae arnom ei hangen pan fyddwn yn gofyn amdani, ni allwn eich cofrestru yn bleidleisiwr. Gallai hyn hefyd arwain at ddirwy o hyd at £1,000.00 am fod darparu'r wybodaeth yn ofyniad cyfreithiol.
Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o wybodaeth bersonol amdanoch chi, i'w rhoi ar y Gofrestr Etholiadol:
- Enw
 - Cyfeiriad
 
Rydym hefyd yn casglu'r wybodaeth ganlynol at ddibenion gweinyddu:
- Dyddiad geni
 - Rhif ffôn
 - Cyfeiriad e-bost
 - Rhif Yswiriant Gwladol
 - Cenedligrwydd
 - Cyfansoddiad eich teulu
 
Gan bwy yr ydym yn cael yr wybodaeth?
Er mwyn cynnal y gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi, ond rydym hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
 - Y Comisiwn Etholiadol
 - Cartrefi Preswyl/Nyrsio
 - Prifysgolion a cholegau lleol
 - Swyddfa'r Cabinet Digidol
 
Rydym hefyd yn cael gwybodaeth o'r gwasanaethau canlynol gan Gynghorau:
- Treth y Cyngor
 - Budd-daliadau Tai
 
Cesglir y mathau canlynol o ddata personol:
- Enw
 - Cyfeiriad
 - Rhif ffôn
 - Cyfeiriad e-bost
 - Dyddiad geni
 
Trosglwyddo eich gwybodaeth i wledydd tramor
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig.
Pwy a allai gael eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?
Gall unrhyw sefydliad neu aelod o'r cyhoedd weld y Gofrestr Etholiadol Lawn, a gall unrhyw un brynu'r Gofrestr Agored ddiwygiedig y mae modd i chi eithrio eich hun ohoni.
Yn unol â Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, dim ond yr unigolion a'r sefydliadau canlynol sy'n gymwys i gael copi o'r gofrestr lawn o etholwyr, ar gais:
- cynrychiolwyr etholedig
 - ymgeiswyr
 - asiant i restr plaid sy'n ymgeisio mewn etholiad i Senedd Ewrop, neu etholiad mewn etholaeth ranbarthol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 - pleidiau gwleidyddol cofrestredig, gan gynnwys sefydliadau trydydd parti cydnabyddedig
 - Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
 - pleidiau etholaethau lleol
 - deiliaid swyddfeydd etholedig perthnasol mewn perthynas â Pharagraff 1(8), Atodlen 7, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda
 - cyfranogwyr a ganiateir mewn perthynas ag Adran 105(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda
 - y cyngor a benododd y Swyddog Cofrestru Etholiadol
 - unrhyw awdurdod lleol arall y mae ei ardal yn gyfrifoldeb i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, yn rhannol neu'n llwyr (nid yw hyn yn cynnwys cynghorau plwyf na chymuned)
 - unrhyw heddlu ym Mhrydain Fawr
 - y Gwasanaeth Cenedlaethol Cudd-wybodaeth Droseddol
 - yr Uned Droseddau Genedlaethol
 - Sefydliad Technoleg Gwybodaeth yr Heddlu
 - unrhyw gorff o gwnstabliaid a sefydlwyd o dan ddeddf
 - y Gwasanaeth Diogelwch, Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth
 - gwasanaeth archifau llyfrgelloedd cyhoeddus neu awdurdodau lleol y mae eu cylch gwaith yn cynnwys yr ardal gofrestru
 - Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig
 - Cynghorau Tref a Chymuned
 - Y Comisiwn Etholiadol
 - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
 - Darparwr meddalwedd (Democracy Counts)
 - Argraffydd allanol (Adare SEC)
 
Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth sy’n cael ei dal ar y Gofrestr Lawn i'r canlynol:
Yn fewnol:
- gwasanaethau'r Cynghorau sydd angen gwirio enwau a chyfeiriadau at ddibenion busnes.
 - Mae'r Gwasanaethau Etholiadol yn meddu ar gopïau o'r Gofrestr Lawn, a gallent gyflenwi copïau sy'n hŷn na 10 mlwydd oed at ddibenion ymchwil o dan rai amgylchiadau.Gwneir gwaith paru data yn rheolaidd mewn perthynas â’r myfyrwyr sydd wedi cofrestru â Phrifysgol Aberystwyth, a hynny i gydymffurfio â'n rhwymedigaeth i gynnal cofrestr gywir o dan Reoliad 23 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001