Ailgylchu Gwastraff Bwyd
Y peth gorau i’w wneud gyda bwyd, yw peidio â’i wastraffu. Rydym yn cefnogi’r Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff. I gael rhagor o wybodaeth am sut i osgoi gwastraffu bwyd, ewch i wefan Cymru yn Ailgylchu yma.
Ar gyfer y gwastraff bwyd rydych chi'n ei gynhyrchu, rydym yn darparu gwasanaeth casglu wythnosol.
Oeddech chi'n gwybod bod y gwastraff bwyd rydyn ni'n ei gasglu yn y gwasanaeth gwastraff bwyd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan gwyrdd?
Mae mwy o wybodaeth yma.
Bob Wythnos
Casglu gwastraff bwyd – y manteision
Pam y dylech ddefnyddio'r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd:
Defnyddio’r gwasanaeth gwastraff bwyd? | Rhoi eich gwastraff bwyd yn y bag du? |
Mae’n hylan. Mae’r gwastraff bwyd yn cael ei gasglu bob wythnos, gan leihau arogleuon a phroblemau hylendid. |
Rhaid storio gwastraff bwyd gartref am 3 wythnos. |
Mae’r biniau gwastraff bwyd y gellir eu cloi yn helpu i atal biniau rhag denu bywyd gwyllt. | Mae gwastraff bwyd mewn “bagiau du” yn denu bywyd gwyll, a allai fod yn niwsans. |
Mae’n hawdd i’w ddefnyddio. Rydym yn darparu cynwysyddion a leinin ar gyfer y cadw gwastraff bwyd, gan ei wneud yn lanach ac yn haws i’w ddefnyddio. | Bydd yn ei gwneud hi’n anoddach cyfyngu ar eich gwastraff “bag du”. |
Mae’r bwyd a gesglir trwy’r gwasanaeth gwastraff bwyd yn cael ei anfon i gyfleuster Treulio Anaerobig lle mae’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwrtaith ac ynni adnewyddadwy. | Mae’r gwastraff bwyd yn mynd i gyfleuster ynni o wastraff, neu i safleoedd tirlenwi. |
Mae’r gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu, gan ein helpu i gyrraedd targedau ailgylchu statudol ac osgoi dirwyon. | Nid yw’r gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu. |
Mae’r gwastraff bwyd yn rhatach i’w drin. |
Mae’r gwastraff bwyd yn ddrytach i’w waredu. |
Mae'r gwasanaeth gwastraff bwyd yn hawdd i'w ddefnyddio, a bydd yn eich helpu i reoli'r cyfyngiadau "bag du".
Sut i ailgylchu eich gwastraff bwyd
- Leiniwch eich cadi cegin 7 litr gyda leiniwr
- Ychwanegwch eich gwastraff bwyd
- Pan fyddwch chi’n barod (does dim rhaid i chi aros nes bod y cadi yn llawn), tynnwch y leiniwr sy’n cynnwys y gwastraff, ei glymu a’i roi i mewn i gadi 23 litr awyr agored cloadwy.
- Rhowch eich cadi awyr agored cloadwy allan i’w gasglu ar ddiwrnod casglu gwastraff.
O ble alla i gael cadi a leiniwr?
Pa wastraff rydyn ni’n ei dderbyn
Dylid rhoi gwastraff bwyd allan dim ond mewn leiniwr gwastraff bwyd wedi’i glymu a’i roi y tu mewn i’r cynhwysydd gwastraff bwyd mawr; darperir y leinwyr gwastraff bwyd a’r cynwysyddion gan y Cyngor.
Gall yr holl wastraff bwyd heb ei becynnu, boed wedi'i goginio neu heb ei goginio, fynd i'ch cadi gwastraff bwyd. Mae hyn yn cynnwys:
- Holl wastraff bwyd (wedi’i goginio neu beidio) neu bethau o’r rhewgell
- Unrhyw fwyd dros ben ar blatiau
- Unrhyw fwyd hen sydd wedi dyddio
- Bara, crwst a melysion
- Cynnyrch llaeth
- Pysgod (wedi’u coginio neu’n amrwd), esgyrn a charcasau
- Cig (wedi’u coginio neu’n amrwd), esgyrn a charcasau
- Bagiau te a choffi mâl
- Ffrwythau a llysiau (rhai cyfan a philion)
- Plisgyn wyau
- Ychydig bach o olew coginio (Gwnewch yn siŵr ei fod wedi oeri i dymheredd yr ystafell cyn ei roi yn y bin gwastraff bwyd)
Leiniwr
Defnyddiwch y leinwyr a ddarperir gan y Cyngor yn eich cadi cegin. Peidiwch â defnyddio unrhyw fath arall o fag plastig os gwelwch yn dda gan fod y leinwyr a ddarperir gan y Cyngor wedi’u cymeradwyo gan y cyfleuster trin gwastraff bwyd. Mae’r leinwyr plastig yn cael eu tynnu o’r cyfleuster trin gwastraff bwyd a’u danfon i safle Ynni o Wastraff lle mae’r leinwyr yn cael eu trin i gynhyrchu gwres a thrydan.
Sut i gael mwy o leinwyr
Clymwch eich tag gwyn wrth eich cynhwysydd gwastraff bwyd ar y diwrnod casglu i wneud cais am fwy o leinwyr gwastraff bwyd. Fel arall, mae’r leinwyr gwastraff bwyd ar gael yn eich Canolfannau Ailgylchu Cymunedol.
Nid oes rhaid i chi leinio’r bin y tu allan, ond os ydych chi eisiau, mae leinwyr mawr ar gael i’w prynu o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid.
Cadi i’w ddefnyddio yn y tŷ a bin y tu allan
Os oes angen i chi amnewid cynhwysydd sydd ar goll neu wedi torri neu os oes angen cynhwysydd ychwanegol arnoch gan fod gennych lawer iawn o wastraff bwyd (e.e. teulu mawr), ewch i Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid neu cysylltwch â ni.