Bagiau Ailgylchu Clir

Mae’r bagiau ailgylchu clir yn cael eu cludo at MRF. Yn yr MRF caiff yr holl ailgylchu ei ddidoli i’r deunyddiau gwahanol cyn cael ei ddanfon bant i’w bresesu. Mae ble mae’r deunydd yn cael ei ddanfon i’w ailgylchu yn dibynnu ar y math o wastraff ac ar pris y farchnad ar adegau penodol.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan ein contractwr : www.regenwaste.com.


Gwastraff bwyd

Mae’r gwastraff bwyd yn cael ei gludio at Dreuliwr anaerobig yn Severn Trent Green Power, Stormy Down ger Penybont-ar-Ogwr. Caiff y gwastraff bwyd ei drin a’r cynhyrchion terfynol yw bio nwy sy’n cynhyrchu trydan, a gwrtaith o math slwtsh. Mewn blwyddyn mae digon o drydan yn cael ei gynhyrchu o’r gwastraff bwyd i bweru tua 300 o gartrefi. Caiff y gwrtaith ei wasgaru ar dir amaethyddol.

Mae’r fideo isod yn dangos y broses o Dreulio Anaerobig.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Severn Trent Green Power: www.stgreenpower.co.uk.


Gwydr

Mae’r gwydr a gesglir o’ch bocsys ailgylchu gwydr yn cael ei anfon i gyfleuster ailgylchu gwydr. Gall gwydr gael ei ailgylchu’n ddiderfyn ac felly nid oes esgus dros ei roi yn y bag du.


Ynni o wastraff

Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu ac a roddir yn eich bagiau du yn mynd i gyfleuster ynni o wastraff i gael ei drin yn hytrach na mynd i safle tirlenwi. Gwyliwch y fideo isod i gael rhagor o wybodaeth.


I ddarganfod mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd i’ch gwastraffewch i wefan Fy Ailgylchu Cymru: Fy Ailgylchu Cymru > Awdurdodau Lleol > Ceredigion.