Beth yw tipio anghyfreithlon?

Tipio anghyfreithlon yw dadlwytho unrhyw wastraff ar dir nad ydyw wedi'i drwyddedu i'w dderbyn. Dim ond Safleoedd Gwastraff o Gartrefi a Gorsafoedd Trosglwyddo Gwastraff sydd wedi'u trwyddedu i dderbyn gwastraff yng Ngheredigion. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol ddifrifol sy'n costio £100-£150 miliwn o bunnau bob blwyddyn i drethdalwyr y Deyrnas Gyfunol.

Pwy sy'n mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon?

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ac Asiantaeth yr Amgylchedd bwerau i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Y Cyngor Sir sy'n ymdrin â'r rhan helaeth o achosion o dipio anghyfreithlon, a bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn mynd i'r afael â thipio gwastraff peryglus, achosion ar raddfa fawr, a minteioedd sy'n tipio gwastraff mewn trefn.

Er mai Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am waredu tir cyhoeddus rhag gwastraff, mae perchnogion tir yn gyfrifol am eu heiddo eu hunain – os dadlwythwyd gwastraff ar eich tir, chi sy'n gyfrifol am glirio'r tir a thalu rhywun i gael gwared â'r gwastraff.

Tipio Anghyfreithlon a'r Gyfraith

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Bydd lefel y gosb am dipio anghyfreithlon yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd, yr effaith ar yr amgylchedd a'r gost o glirio'r safle a mynd i'r afael ag unrhyw lygredd. Gall hynny gynnwys:

Yn Llys yr Ynadon:

  • Dirwy o £50,000 a / neu 12 mis o garchar

Yn Llys y Goron:

  • Dirwy ddiderfyn a / neu 5 mlynedd o garchar
  • Fforffedu unrhyw gerbyd a ddefnyddiwyd wrth dipio'n anghyfreithlon
  • Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO)
  • Gwaharddiad rhag Gyrru, Gorchymyn Cosb Gymunedol, Rhyddhad Amodol, Rhybudd Ffurfiol, Dyfarnu Costau, Gorchymyn Cyfeirio

Gallech hefyd wynebu dirwy o hyd at £5,000 os nad ydych yn gwirio bod y cwmni neu'r unigolyn yr ydych yn rhoi'r gwastraff iddo yn meddu ar drwydded ar gyfer cludo gwastraff a / neu'n sicrhau nad ydyw'n cludo'r gwastraff hwnnw i safle didrwydded.

Beth ddylech chi ei wneud os ddewch chi ar draws tipio anghyfreithlon?

Cyn i chi wneud dim, cofiwch sicrhau eich bod yn ddiogel. Gallai gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon fod yn beryglus. Peidiwch ag agor bagiau duon, drymiau na chistiau. Hyd yn oed os oes golwg ddiniwed ar y gwastraff, gall pethau niweidiol fod ynddo neu'n cuddio oddi tano. Hefyd, mae pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon yn cyflawni trosedd, ac felly go brin y byddant yn falch o gael pobl yn tynnu eu lluniau neu'n cofnodi manylion.

Dylech gofnodi'r wybodaeth ganlynol:

  • Y dyddiad ar y pryd
  • A oedd yr eitemau yno eisoes, ynteu a welsoch chi rywun yn eu dadlwytho
  • Y diwrnod, y dyddiad a'r amser pan ddaethoch chi o hyd i'r gwastraff
  • Lleoliad (enw'r stryd, rhif y ffordd, cyfeirnod grid)
  • Disgrifiad o'r gwastraff (teiars, nwyddau electronig, bagiau duon, ac yn y blaen)
  • Maint y gwastraff a ddadlwythwyd (llond fan, nifer y biniau du, amcangyfrif o nifer yr eitemau, ac yn y blaen)

Os gwelsoch chi'r gwastraff yn cael ei ddadlwytho, dylech gofnodi'r wybodaeth ychwanegol ganlynol:

  • Pwy oedd gyda chi pan welsoch chi hyn
  • Pwy welsoch chi'n dadlwytho'r gwastraff (faint o bobl, disgrifiadau bras, rhyw, lliw gwallt ac yn y blaen)
  • Beth welsoch chi'r tipwyr anghyfreithlon yn ei wneud
  • A oedd unrhyw gerbydau eraill wrthi hefyd, gan nodi manylion unrhyw gerbyd (math, lliw, gwneuthuriad, model ac yn y blaen)Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol

Os oes modd, tynnwch luniau.

Ar ôl casglu'r wybodaeth, anfonwch bopeth i Gyngor Sir Ceredigion. Fe welwch y manylion cyswllt isod.

Sut allwch chi helpu i atal tipio anghyfreithlon?

Sicrhewch eich bod yn defnyddio contractwr gwastraff cyfreithlon. Chi sy'n gyfrifol am waredu eich gwastraff, a gallech gael eich erlyn os caiff ei dipio'n anghyfreithlon. Galwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0370 850 6506 a gofyn am Archwiliad Dilysu Cludwr Gwastraff. Gallwch wneud hynny ar-lein drwy glicio'r ddolen gyswllt isod.

Dolenni Cyswllt Defnyddiol

GOV.UK
Taclo Tipio Cymru