Ailddefnyddio

Y peth gorau i’w wneud ag eitemau swmpus o’r cartref megis soffas, byrddau, cadeiriau ac eitemau celfi eraill yw dod o hyd i gartref newydd ar eu cyfer. Beth am roi cynnig ar un o’r canlynol:

  • Rhoi i ffrind neu aelod o’r teulu
  • Rhoi i Elusen
  • Gwerthu eitemau diangen ar hysbysfyrddau, “swap shops” a gwefannau niferus

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ailddefnyddio eitemau CRAFT yn Aberystwyth a Phrosiectau Cymunedol Bywyd Newydd / New Life Community Projects yn Aberteifi. Mae’r ddau’n fudiadau nad ydynt yn gwneud elw sy’n gweithio i annog a chefnogi ailddefnyddio ac ailgylchu yn y gymuned leol.

Lleolir CRAFT sef sefydliad ailddefnyddio celfi y tu ôl i’r orsaf drenau yn Aberystwyth. Os oes gennych eitemau diangen megis celfi neu eitemau swmpus o’r cartref sydd dal mewn cyflwr da, mae CRAFT yn cynnig CASGLU’R EITEMAU AM DDIM. Am fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan www.craftrecycling.org.uk neu ffoniwch 01970 626532.

Lleolir Prosiectau Cymuned Bywyd Newydd / New Life Community Projects yn Rhes y Frenhines, Aberteifi. Os oes gennych eitemau diangen megis celfi neu eitemau swmpus o’r cartref sydd dal mewn cyflwr da, mae Prosiectau Cymuned Bywyd Newydd yn cynnig CASGLU’R EITEMAU AM DDIM. Am fwy o wybodaeth ewch i’w gwefan newlifewales, The Projects Cardigan (Facebook) neu ffoniwch 01239 621253.

Os nad yw eich celfi neu eitemau o’r cartref mewn cyflwr digon da i gael eu hailddefnyddio gallwch fynd â nhw i’r Safle Gwastraff Domestig lleol AM DDIM, neu drefnu i’r Cyngor ddod i’w casglu drwy’r Gwasanaeth Casglu Eitemau Swmpus.

Gwastraff Swmpus a Chasgliadau y Codir Tâl Amdanynt

NI DDYLECH DDEFNYDDIO’R GWASANAETH YMA OND BAI EICH BOD WEDI RHOI CYNNIG AR OPSIYNAU AR GYFER GWAREDU EICH EITEMAU SWMPUS, GAN Y BYDDANT YN DEBYGOL O GAEL EU HANFON AT SAFLE TIRLENWI.

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth i gludo eitemau swmpus a lletchwith i Safleoedd Gwastraff Domestig. Rhennir y gwasanaeth yn ddwy haen:

Haen Un

Mae'r haen gyntaf yn cynnwys eitemau o'r cartref y gellir eu symud yn gymharol rwydd - y math o beth y buasech yn mynd â chi wrth symud tŷ - er enghraifft:

  • Soffas
  • Cadeiriau
  • Oergelloedd
  • Rhewgelloedd
  • Poptai
  • Carpedi
  • Llenni
  • Setiau teledu
  • Peiriannau Fideo
  • Gwelyau
  • Cypyrddau dillad

Codir tâl o £61.000 am gasglu hyd at chwe eitem, a £61.00 am bob chwe eitem wedi hynny. Er enghraifft, buasai gofyn talu £61.00 am 1-6 eitem, neu £122 am 7-12.

Noder y bydd angen cyflwyno'r holl eitemau sydd i'w casglu fel rhan o’r Casgliad Gwastraff Swmpus y tu allan i'r eiddo. Ni fydd y criw casglu gwastraff yn mynd i mewn i'ch eiddo i gasglu'r eitemau.
 
Os oes angen i chi newid y rhestr o eitemau sydd i'w casglu fel rhan o’r casgliad gwastraff Swmpus, gellir gwneud hyn hyd at 2:30pm y diwrnod cyn casglu. (2:30pm ar ddydd Gwener ar gyfer casglu ar ddydd Llun).

I drefnu casgilad o eitemau swmpus ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01545 570881.

Noder nad yw'r gwasanaeth yma ar gyfer landlordiaid na fusnesau. Os credir bod cais am gasgliad wedi ei wneud yn anghyfreithlon ni fydd yr eitemau a restrwyd yn cael eu casglu.  

Haen Dau

Mae'r ail haen yn cynnwys yr holl eitemau hynny na ddisgrifir uchod, a gellir eu diffinio fel Gosodion a Ffitiadau Domestig (unedau ystafell ymolchi, unedau cegin, drysau, ffenestri, gwresogyddion stôr) a Dodrefn Allanol (siediau, tai gwydr, bynceri). Mae’r pris ar gyfer y gwasanaeth hwn ar gael ar gais.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Cyngor.