Aberystwyth
Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. SY23 3JQ.
Oriau agor:
Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 -17:00
Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00 - 15:00
Ar Gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith
Aberteifi
Cyfeiriad: Cilmaenllwyd, Penparc, Cardigan. SA43 1RB.
Oriau agor:
Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 -17:00
Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00 - 15:00
Ar Gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith
Llanbedr Pont Steffan
Cyfeiriad: Yr Ystâd Ddiwydiannol, Heol Tregaron, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8LT.
Oriau agor:
Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 -17:00
Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00 - 15:00
Ar Gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith
Llanarth
Cyfeiriad: Rhydeinon, Llanarth. SA47 0QP.
Oriau agor:
Dydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul 10:00-17:00
- Mae'r Safleoedd Gwastraff Cartref ar gyfer defnydd trigolion o Geredigion yn unig. Mae'n bosib y byddwch yn cael eich gofyn i ddangos prawf o'ch cyfeririad.
- Dim ond gwastraff o'r cartref a ellir ei waredu yn y safle hwn
- Dim Gwastraff Masnachol
- Ni chaniateir gwastraff adeiladwyr, silindrau nwy, na theiars
- Ni chaniateir ceir a cherbydau ar ddiwedd eu hoes
- Caiff uchafswm o 5 sach adeiladwr (uchafswm 20 kg yr un) o bridd, rwbel, neu wastraff DIY ei dderbyn bob mis, cyhyd a'i fod yn tarddu o waith domestig
- Caiff ychydig iawn o asbestos wedi'i lapio ddwy waith mewn bagiau plastic cryf (1 neu 2 ddarn bob 3 mis) ei dderbyn, cyhyd a'i fod yn tarddu o waith domestig. Nodwch os ydych yn dymuno defnyddio Safle Gwastraff Cartref Cilmaenllwyd, byddwch yn cael eich cyfeirio at Safle D I Evans Cyf yn Beulah. Os ydych yn dymuno defnyddio Safle Gwastraff Cartref Rhydeinion, byddwch yn cael eich cyfeirio at Safle LAS yn Llanbedr Pont Steffan. Gweler y cyfarwyddiadau am waredu Asbestos mewn ffordd ddiogel
- Caiff ychydig iawn o fwrdd plastr (1 neu 2 ddarn bob 3 mis) ei dderbyn, cyhyd a'i fod yn tarddu o waith domestig
- Caniateir 1 matras bob mis, cyhyd a'i fod yn tarddu o eiddio domestig
- Rhaid i'r holl wastraff gael ei roi yn y cynhwysyddion cywir
- Ni chaniateir Faniau na cherbydau ac uchafswm màs awdurdodedig o 2 dunnell neu fwy.
- Nodwch NA fydd unrhyw drelar gwartheg neu geffylau, trelar dwy echel, neu gerbyd yn fwy na'r hyn a nodir uchod yn cael ei ganiatáu ar y safle. O dan amgylchiadau arbennig, gall y Cyngor roi caniatâd ymlaen llaw cyn ymweld â'r safle. Nodwch, os ydych yn bwriadu defnyddio'r safle ar y penwythnos neu ar ddydd Llun Gŵyl Y Banc bydd angen gwneud cais am ganiatâd erbyn 4:30yh ar ddydd Iau cyn yr ymweliad. Os ydych yn bwriadu defnyddio'r salfe ar ddydd Llun bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd erbyn 12.00 hanner dydd ar y dydd Gwener cyn yr ymweliad. O dan bob amgylchiad arall bydd angen o leiaf 24 awr o rybudd. Ffoniwch 01545 570881 i dderbyn caniatâd. Pan roddir caniatâd, bydd rheolau Covid y safle yn dal i fod yn berthnasol.
- Ni chaniateir cludo unrhyw eitemau i fewn i'r Safle Gwastraff Cartref o unrhyw gerbydau sydd wedi eu parcio tu allan i ffin y safle
- Ni fyddwn yn goddef ymosodiadau llafar na chorfforol tuag at weithwyr y safle
- Ni fyddwn yn goddef ymddygiad treisgar a bygythiol tuag at weithwyr y Safle, a byddwn yn galw'r heddlu
- Mae system deledu cylch cyfyng yn gweithredu drwy'r amser ar y safle
Dewch o hyd i'ch Banc Ailgylchu agosaf yn Ceredigion
Gellir dod o hyd i fanciau ailgylchu ar draws Ceredigion er mwyn ailgylchu nwyddau megis gwydr a tecstilau. Fel arfer mae’r banciau ailgylchu wedi’u lleoli o fewn meysydd parcio.
Er mwyn dod o hyd i'ch Banc Ailgylchu agosaf, plis defnyddiwch: -
Rhestr o fanciau ailgylchu yng Ngheredigion
Map Rhyngweithiol
Cylch Coch = Canolfan Ailgylchu
Sgwâr Glas = Banc Ailgylchu
Diemwnt Gwyrdd = Safle Gwastraff Cartref