Cynnyrch hylendid amsugnolBob 2 Wythnos

Drwy gasglu gwastraff na ellir ei ailgylchu (bagiau du)  bob 3 wythnos, deallwn y bydd angen cymorth ar rai aelwydydd i gael gwared ar gewynnau tafladwy a chynnyrch anymataliaeth, a elwir hefyd yn Gynnyrch Hylendid Amsugnol neu CHA.  Felly, rydym wedi cyflwyno gwasanaeth casglu ychwanegol i ddelio â’r math hwn o wastraff.

Beth sy’n cael ei dderbyn gan y gwasanaeth casglu CHA?

  • Cewynnau tafladwy
    • Pob math a maint
    • Pants dysgu a ‘Pull-ups’
    • Cewynnau nofio
  • Gwastraff newid cewynnau megis weips, sachau cewynnau a gwlân cotwm
  • Cynnyrch anymataliaeth
    • Padiau, pants a chydau o bob math a maint
    • Cathetrau gwag, tiwbiau a bagiau stoma/colostomi
    • Padiau cadair tafladwy a leinwyr, padelli gwely a phadiau gwely tafladwy

Cysylltwch â ni os nad yw’r math o gynnyrch anymataliaeth yr ydych yn ei ddefnyddio wedi’i restru uchod.

Beth NA FYDD yn cael ei dderbyn gan y gwasanaeth casglu CHA?

  • Gwastraff glanweithiol (tywelion glanweithiol/tamponau) – rhowch y rhain yn y bagiau gwastraff na ellir ei ailgylchu
  • Gwastraff clinigol heintus, nodwyddau, offer miniog a chwistrellau - Gwastraff meddygol neu glinigol: siaradwch â’ch Bwrdd Iechyd Lleol, tîm nyrsys ardal neu ffoniwch gwasanaeth 111 y GIG
  • Gwastraff anifeiliaid
  • Deunydd gwely anifeiliaid – gellir rhoi symiau bach yn y bagiau gwastraff na ellir ei ailgylchu neu gall fod yn addas i’w gompostio gartref
  • Castiau plaster
  • Plastrau, swabiau meddygol a rhwymynnau – rhowch y rhain yn y bagiau gwastraff na ellir ei ailgylchu
  • Blancedi a dillad wedi’u baeddu – rhowch y rhain mewn biniau gwastraff na ellir ei ailgylchu

Sut mae’n gweithio

  • Unwaith yr ydym wedi derbyn eich ffurflen gais, byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion pellach am y gwasanaeth
  • Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd pecyn gwybodaeth a chyflenwad o fagiau CHA yn cael ei anfon atoch. Nodwch gall gymryd hyd at 3 wythnos cyn fod y pecyn gwybodaeth a chyflenwad o fagiau CHA cychwynol gael eu dosbarthu.
  • Dylid clymu pob bag CHA yn dynn a dylid sicrhau bod yr holl gynnyrch wedi’i gynnwys yn gyfan gwbl o fewn y bag cyn ei gyflwyno ar ymyl y pafin neu’r man casglu y cytunwyd arno
  • Bydd y bagiau CHA yn cael eu casglu bob 2 wythnos a byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd fydd y diwrnod casglu, gan ddarparu calendr casglu gwastraff CHA
  • Os na fydd gwastraff wedi’i gyflwyno ar 3 chasgliad yn olynol, byddwn yn tybio nad oes angen y gwasanaeth arnoch mwyach.  Os oes angen i chi ailddechrau’r gwasanaeth, ffoniwch 01545 570881

Sut ydw i’n gwneud cais?

Mae’n rhaid llenwi ffurflen gais i dderbyn y Gwasanaeth Casglu CHA.  Mae’r ffurflen gais ar gael wrth glicio’r botwm isod:

Gwneud cais ar gyfer gwasanaeth CHA


Cwestiynau Cyffredin am y gwasanaeth CHA

Beth am gewynnau y gellir eu golchi?

Rydym yn annog defnyddio cewynnau y gellir eu golchi yn hytrach na chewynnau tafladwy. Gweler ein gwefan am wybodaeth ynglŷn â’r Ymgyrch Cewynnau Go Iawn

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y Gwasanaeth Casglu CHA?

Unrhyw ddefnyddiwr CHA sy’n byw yn barhaol yn y cyfeiriad a nodir ar y ffurflen gais.  Os oes angen y gwasanaeth hwn ar fwy nag un person yn y cyfeiriad a nodir, rhowch enw’r ddau ynghyd â’u gofynion. Nid oes angen cyflwyno dwy ffurflen gais ar wahân.

A wnewch chi gasglu cewynnau babanod a phlant o bob oed?

Rydym yn deall bod babanod yn datblygu ar oedrannau gwahanol ac felly nid oes cyfyngiad oedran ar gyfer babanod/plant sy’n gwisgo cewynnau.

A allaf i gael cynhwysydd i gadw’r bagiau CHA?

Cyfrifoldeb y preswylydd yw storio’r bagiau rhwng pob casgliad.

Efallai y bydd lle i roi darpariaeth amgen i rai preswylwyr, er enghraifft, os oes angen meddygol, ac ystyrir pob achos ar sail unigol.

Os byddaf yn defnyddio fy nghyflenwad o fagiau CHA i gyd, a allaf ddefnyddio unrhyw fag plastig?

Na. Dim ond bagiau CHA a ddosberthir gan y Cyngor a fydd yn cael eu casglu gan y Gwasanaeth Casglu CHA.

Sut ydw i’n gwneud cais am ragor o fagiau?

Byddwch yn derbyn cyflenwad cychwynnol o fagiau CHA ynghyd â thag gwyn i wneud cais am ragor o fagiau. Os oes angen rhagor o fagiau CHA arnoch ac nad oes tag gwyn gennych, cysylltwch â ni. Byddwn yn trefnu bod cyflenwad arall o fagiau CHA yn cael eu dosbarthu i chi.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn rhoi’r deunydd anghywir yn y bag CHA? 

Os bydd deunyddiau heblaw’r eitemau a dderbynnir yn cael eu cyflwyno yn y bagiau CHA ni fyddant yn cael eu casglu. Gall cartrefi sy’n rhoi’r deunyddiau anghywir yn y bagiau CHA yn gyson yn cael eu tynnu o’r gwasanaeth casglu.

A allaf roi cewynnau tafladwy a chynnyrch anymataliaeth gyda’r gwastraff sy’n mynd i’r bagiau du?

Cewch, ar ôl clymu’r gwastraff mewn dau fag.

Mae fy ŵyr/wyres yn dod i aros gyda mi; a fyddaf yn gallu derbyn y casgliad? 

Na, gan nad hwn yw cyfeiriad parhaol y plentyn. Fodd bynnag, os yw cyfeiriad parhaol y plentyn wedi’i gofrestru i dderbyn y gwasanaeth yng Ngheredigion, gallwn argymell bod y cewynnau yn cael eu hanfon yn ôl i gyfeiriad parhaol y plentyn er mwyn eu casglu.

Rwy’n fam-gu/tad-cu/perthynas sy’n darparu gofal plant am ddim tra bod rhieni’r plentyn yn y gwaith. A fyddaf yn gallu derbyn y gwasanaeth?

Na, gan nad hwn yw cyfeiriad parhaol y plentyn. Fodd bynnag, os yw cyfeiriad parhaol y plentyn wedi’i gofrestru i dderbyn y gwasanaeth yng Ngheredigion, gallwn argymell bod y cewynnau yn cael eu hanfon yn ôl i gyfeiriad parhaol y plentyn er mwyn eu casglu.

Beth fydd yn digwydd i’r CHA a gesglir yn rhan o’r gwasanaeth?

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn rhan o brosiect sy’n ceisio dod o hyd i atebion wrth ailgylchu cynnyrch hylendid amsugnol (CHA).  Yn y cyfamser, anfonir cynnyrch hylendid amsugnol i gyfleuster Ynni o Wastraff lle caiff ei drin i gynhyrchu trydan.   

Rwy’n defnyddio cynnyrch anymataliaeth ond nid wyf yn dymuno cyhoeddi’r ffaith hon drwy roi sach allan i’w chasglu gan y gwasanaeth casglu CHA. A oes modd darparu’r gwasanaeth hwn mewn modd cyfrinachgar, a sut y gellir trefnu hyn?

Wrth lenwi’r ffurflen mae adran lle gall preswylwyr roi gwybod i ni sut y gallwn eu helpu nhw i ddarparu’r gwasanaeth mor gyfrinachgar â phosib. Rhowch wybod i ni sut y gallwn helpu.

A allaf dderbyn y Gwasanaeth Casglu CHA os ydw i’n warchodwr plant? 

Gallwch, ond bydd angen i chi gael cytundeb masnachol gyda ni ar gyfer y math yma o wastraff.