Bocs i ailgylchu gwydrBob 3 Wythnos

Rhowch boteli a jariau gwag o unrhyw liw, siâp a maint yn eich bocs ailgylchu gwydr.  Nid oes angen i chi dynnu’r labeli, caeadau, cyrc na thopiau poteli.

Golchwch y poteli a’r jariau os gwelwch yn dda cyn eu rhoi yn eich bocs.

Rhowch eich bocs ailgylchu gwydr allan i’w gasglu ar bob cyfle posibl. Peidiwch ag aros tan bod y bocs yn llawn gan y gall hyn fod yn beryglus. Peidiwch â llenwi eich bocs ailgylchu gwydr yn uwch na’r ymylon. Mae gorlenwi’r bocs yn ei gwneud yn fwy tebygol bod pethau’n torri ac yn achosi anafiadau. Os oes angen mwy nag un bocs arnoch, cysylltwch â’r Cyngor.


Mathau o wydr a dderbynnir

  • Poteli gwydr dal diod ee poteli gwin, poteli cwrw
  • Poteli gwydr dal bwyd ee jariau sawsiau coginio, jariau jam, jariau blaslynnau
  • Poteli persawr gwydr
  • Poteli gwydr dal moddion

Does dim angen i chi wahanu eich gwydr yn ôl ei liw.


Mathau o wydr na dderbynnir

  • Cynwysyddion peirecs
  • Gwydrau dal diod
  • Sbectolau
  • Gwydr paen ffenestr
  • Addurniadau gwydr
  • Briwfyrddau gwydr
  • Bylbiau golau

Ewch â’r eitemau hyn i’ch Safle Ailgylchu Gwastraff Cartref i’w hailgylchu. Fel arall, gallwch roi’r rhan fwyaf o’r eitemau hyn i’ch siop elusen leol cyhyd â’u bod mewn cyflwr da ac mae’r rhan fwyaf o optegwyr yn fodlon derbyn sbectolau.

Pam na ellir rhoi’r eitemau hyn yn y bocs?

Mae’r eitemau hyn yn toddi ar dymheredd gwahanol i boteli a jariau gwydr. Os byddant yn cael eu cymysgu a’u casglu byddant yn halogi’r llwyth, yn ei wneud yn ddiwerth ac ni fyddai modd ei ailgylchu.

Os oes angen bocs llai neu focsys safonol ychwanegol arnoch, cysylltwch â ni ar bob cyfri.  Noder, fodd bynnag, fod y tîm rheoli gwastraff yn rhoi blaenoriaeth i ddosbarthu’r pecyn ailgylchu cyntaf. Yn anffodus, bydd oedi wrth ddosbarthu bocsys ychwanegol neu rai newydd.  Diolchwn i chi am eich amynedd.

Bocs llai

Ar ôl ceisio defnyddio’r bocs safonol, os ydych chi’n teimlo y byddai bocs llai yn fwy addas gallwch ofyn am un arall. Gofynnir i chi adael y bocs safonol lle gellir ei gasglu pan fydd yr un newydd yn cael ei ddosbarthu.

Bocs ychwanegol

Hyd nes y bydd y bocs ychwanegol yn cael ei ddosbarthu, gallwch gyflwyno unrhyw wydr dros ben i’w gasglu ar y diwrnod casglu gwydr rheolaidd, mewn cynhwysydd addas o’ch dewis ee bwced, twb neu hen focs cardbord. Lle bo modd, byddwn yn ceisio dychwelyd eich cynhwysydd.

Ble allaf i gadw fy mocs?

Mae’r tyllau draenio sydd yn y bocs yn uchel er mwyn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw hylif yn dianc o’r bocs gan faeddu eich lloriau, os byddwch am gadw’r bocs yn y tŷ. Fodd bynnag, os byddwch am gadw’r bocs y tu allan, bydd y tyllau yn caniatáu i’r dŵr glaw ddianc dan reolaeth.

Hysbysiad pwysig

Dim ond y pethau hynny sydd ar y rhestr y dylech eu rhoi yn y bocs er mwyn i ni eu casglu.

Os bydd y pethau anghywir yn cael eu casglu a’u cymysgu yn y llwyth, yna ni ellir ei ailgylchu.

Bydd unrhyw eitemau nad ydynt yn addas i’w casglu wrth ymyl y ffordd yn cael eu gadael yn y bocs er mwyn i chi eu didoli a’u gwaredu yn y modd cywir.