Skip to main content

Ceredigion County Council website

Biniau ac Ailgylchu

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn casglu gwastraff yn rheolaidd o bob eiddo domestig yn y Sir.

Rhoi gwastraff cartref allan i’w gasglu

Fe wna’r Cyngor ei orau glas i gasglu‘r gwastraff. Bydd unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau i’r gwasanaeth yn cael ei hysbysebu ar y wefan www.ceredigion.gov.uk/diweddariadaucasgliadaugwastraff.

Mae gwybodaeth am y Gwasanaeth Casglu Gwastraff i’w gael drwy Fy Nghyfrif hefyd.

Gallwch gofrestri neu fewngofnodi drwy’r dudalen Fy Nghyfrif

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd. Diolch.

Gwastraff sy’n gysylltiedig â salwch heintus

Rhowch eich gwastraff personol megis hancesi papur, cadachau glanhau tafladwy, gorchuddion wyneb tafladwy, menig tafladwy ac unrhyw gyfarpar diogelu personol (PPE) arall yn y gwastraff na ellir ei ailgylchu (“bag du”). Clymwch fag sbwriel ychwanegol o amgylch eich holl wastraff na ellir ei ailgylchu (bag du).

Pa ddiwrnodau fydd fy nghasgliadau i?

Gallwch ddefnyddio ein Chwilio Cod Post

Chwilio Cod Post

Gwybodaeth gwyliau y banc