Mae yna nifer o ddulliau gwahanol o ailgylchu a all eich helpu i leihau gwastraff. Y ffordd orau o wneud hyn yw dilyn y tair A:

Arbed

Er mwyn helpu ni i leihau faint o sbwriel a anfonwn i safleoedd tirlenwi ac er mwyn helpu i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae arnom angen eich help. A allwch chi leihau faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu?

  • Defnyddiwch eich bag siopa/bocsys yn hytrach na bagiau plastig
  • Prynwch lwyth o nwyddau nad ydynt yn pydru a defnyddiwch gynhwysyddion y medrwch eu hail-lenwi lle bo hynny'n bosibl
  • Torrwch bapurau newydd i fyny i'w roi o dan anifeiliaid neu wneud briciau papur allan o bapurau newydd
  • Dychwelwch boteli dychweladwy
  • Os yn bosibl, prynwch laeth oddi wrth y dyn llaeth lleol mewn poteli y medrir eu dychwelyd
  • Lobiwch eich AS/AC er mwyn helpu i ddelio â gormod o becynnau

Ailddefnyddiwch

  • Ailddefnyddiwch papur fel sgrap
  • Ailddefnyddiwch amlenni drwy osod labeli arnynt
  • Rhowch ddillad nad ydych eu hangen ac eitemau o'r tŷ i elusennau, siop hen bethau neu ffair sborion
  • Gallwch roi dillad ac eitemau'r tŷ nad ydych eu hangen ac sydd mewn cyflwr da i siopau ailddefnyddio
  • Mae yna nifer o sefydliadau ailddefnyddio yng Ngheredigion. Mwy o wybodaeth ar sefydliadau ailddefnyddio o dan y tudalen Ymgyrchoedd

Ailgylchu

  • Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o ddefnyddiau. Gellir cael mwy o wybodaeth am ailgylchu yn yr A-Z gwastraff
  • Compostio eich gwastraff cegin a chartref
  • Dylech greu galw am gynnyrch wedi ei ailgylchu gan ddefnyddio eich pŵer fel prynwr. Ceisiwch brynu nwyddau wedi eu hailgylchu wrth siopa, neu nwyddau y gellir eu hailgylchu

Dewch o hyd sut i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu eich gwastraff yn ogystal ag arbed arian. Gallwch hefyd ddarganfod sut i ailgylchu yn eich ardal: ailgylchu dros Gymru.