Ymgyrch Cewynnau Go Iawn - Dyma ymgyrch ar draws y Deyrnas Unedig sy’n hyrwyddo'r defnydd o gewynnau y gellir eu hailddefnyddio ac sy’n darparu gwybodaeth a chyngor diduedd i rieni ynglŷn â dewis cewynnau go iawn.

Pam ddylwn i ddefnyddio Cewynnau Go Iawn?

Mae cewynnau go iawn yn:

  • Naturiol - Wedi eu gwneud yn bennaf o ffibrau naturiol heb geliau cemegol na phylp papur
  • Hawdd eu defnyddio - Maent yn cau gyda felcro neu glecwyr felly does dim angen pinnau
  • Hawdd eu golchi - Does dim angen eu trochi na'u berwi – dim ond eu golchi ar 60˚C. Gellir rhoi leiners bioddiraddadwy i lawr y toiled
  • Rhatach - Gallwch arbed hyd at £500 i'ch plentyn cyntaf.  Gall llawer o gewynnau gael eu defnyddio gan fwy nag un plentyn, sy'n golygu hyd yn oed mwy o arbedion
  • Hwyl - Ceir gwahanol fathau o ddefnydd a chynlluniau i gewynnau go iawn
  • Iachus i’r Baban - Mae’r Cewynnau Go Iawn swmpus yn sicrhau fod cluniau’r baban yn cael eu cadw y pellter cywir ar wahân, gan leihau cyflyrau megis “Cluniau sy’n clicio”
  • Hyfforddiant Toiled - Yn gyffredinol, mae babanod sy’n gwisgo cewynnau go iawn yn tueddu i hyfforddi i fynd i’r toiled ynghynt, gan eu bod yn medru gwneud y cysylltiad rhwng cewyn gwlyb a’r angen i fynd i’r toiled

Er mwyn annog pobl i ddefnyddio cewynnau go iawn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig pecyn o Gewynnau Go Iawn i’w treialu gwerth £40 AM DDIM i rieni newydd sy’n byw yng Ngheredigion.

Mae’r pecyn o Gewynnau Go Iawn i’w treialu yn cynnwys y canlynol:

  • Cewyn fflat
  • Cewyn wedi’i siapio
  • Gorchudd Gwrth-ddŵr
  • Cewyn Cyflawn (o’r crud i’r poti)
  • Rholyn o leinwyr y gellir eu rhoi i lawr y toiled
  • Leinin o wlân cotwm y gellir ei olchi

Ffeithiau Cewynnau Go Iawn

Dewch i ddarganfod mwy am Gewynnau Go Iawn wrth i rieni yng Ngheredigion rannu eu profiadau am ddefnyddio'r cewynnau yn yr Astudiaethau Achos Cewynnau Go Iawn.

Er mwyn hawlio eich pecyn rhad ac am ddim, ffoniwch 01545 570881.  Gofynnir y cwestiynau canlynol i chi:

  • Eich manylion cyswllt: Enw, cyfeiriad a rhif ffôn
  • Manylion y babi: Oedran a phwysau'r babi (neu'r dyddiad y disgwylir iddo gael ei eni)
  • Gwybodaeth ychwanegol: Enw'r Ymwelydd Iechyd neu'r Fydwraig

Nodwch os ydych eisoes wedi derbyn pecyn treialu o gewynnau go iawn, ni fyddwch yn medru derbyn pecyn arall oni bai mewn amgylchiadau arbennig.