Bydd gwasanaeth casglu gwastraff gyda chymorth ar gael i breswylwyr Ceredigion os:

  • Yw’r ymgeisydd yn anabl neu’n methu â rhoi sbwriel allan i’w gasglu, boed hynny am gyfnod dros dro neu’n barhaol
  • Nid oes unigolyn arall yn byw yn yr un eiddo a ellir cynnig cymorth
  • Nid oes aelod o’r teulu, cymydog na gofalwr ar gael fydd yn medru symud sbwriel i ymyl yr eiddo
  • Bydd yr ymgeisydd yn medru darparu tystiolaeth o’r anabledd neu’r rheswm paham nad ydyw’n medru rhoi’r sbwriel allan i’w gasglu os gofynnir iddo / iddi wneud hynny. Mi all hyn fod drwy lythyr oddi wrth swyddog proffesiynol ym maes gofal neu faes meddygol
  • Bydd angen cytuno ar bwynt casglu nad yw’n peryglu iechyd a diogelwch y rheiny sy’n casglu’r sbwriel

Bydd Casglu gyda Chymorth yn golygu y bydd y sawl sy’n casglu gwastraff yn mynd â’ch cynwysyddion gwastraff o bwynt penodol yn eich eiddo er mwyn eu gwacau ac yna eu dychwelyd. Ni fydd hawl gan y sawl sy’n casglu gwastraff fynd i mewn i adeiladau (e.e. garejys, siediau) i symud na dychwelyd cynwysyddion. Bydd yn rhaid i bob gât fod heb ei chloi a heb ei rhwystro ar ddiwrnod casglu.

Ni ddarperir gwasanaeth casglu gyda chymorth am y rheswm fod gennych lôn hir yn unig, y pellter i ffin yr eiddo neu am eich fod yn absennol o’r eiddo ar ddiwrnodau casglu.

Bydd yn ofynnol i gwsmeriaid sy’n derbyn y gwasanaeth hysbysu’r Cyngor ar unwaith pan fydd eu hamgylchiadau’n newid. Bydd cwsmeriaid sy’n derbyn Gwasanaeth casglu gyda chymorth yn parhau i dderbyn y gwasanaeth fodd bynnag byddwn yn adolygu eu trefniadau bob dwy flynedd er mwyn gweld a wy’r angen yn parhau.

Os ydych chi o’r farn eich bod yn cyflawni’r meini prawf uchod a fyddech cystal â chwblhau’r Ffurflen Gais am Wasanaeth Casglu gyda chymorth. Mae’r Ffurflen Gais am Wasanaeth Casglu gyda chymorth ar gael mewn fformat arall drwy gysylltu â ni. Pan fyddwn wedi derbyn eich cais byddwn yn cysylltu â chi er mwyn trefnu i aelod staff ymweld â’ch eiddo i wneud asesiad risg a chymhwysedd. Byddwn wedi hynny’n cysylltu â chi i gadarnhau a fu eich cais yn llwyddiannus ai peidio.