Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff
Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.
Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.
Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.
Diolch.
Dyddiad | Ardal wedi’i effeithio | Math o wastraff sydd wedi’i effeithio | Rheswm | Cyngor |
---|---|---|---|---|
11eg Chwefror 2025 | Betws Bledrws, Llwyn y Groes, Pont Creuddyn, Pentre Bach, Cribyn, Mydroilyn Dihewyd, Felinfach, Talsarn, Silian, Maestir, Llanwnen, Llangybi, Gors Goch, Abermeurig llwybr 173 |
Gwydr | Problemau gyda'r fflyd | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Mawrth 4ydd Mawrth 2025 |
11eg Chwefror 2025 | Pentre Bach, Llanwnen, Rhydowen llwybr 115 |
Gwydr | Problemau gyda staffio | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Mercher 12fed Chwefror 2025 |
10fed Chwefror 2025 | Aberarth, Ciliau Aeron, Cilcennin, Pennant llwybr 168 |
Gwydr | Problemau gyda'r fflyd | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Sadwrn 15fed Chwefror 2025 |
10fed Chwefror 2025 | Aberaeron, Dihewyd, Ffos y Ffin, Llwyncelyn, Derwen Gam, Neuaddlwyd llwybr 165 |
Bagiau Ailgylchu Clir | Problemau gyda'r fflyd | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Llun 17eg Chwefror 2025 |
10fed Chwefror 2025 | Aberarth, Ciliau Aeron, Cilcennin, Pennant llwybr 168 |
Bagiau Ailgylchu Clir | Problemau gyda'r fflyd | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Llun 17eg Chwefror 2025 |
6ed Chwefror 2025 | Llanarth, Gilfachreda, Cei Newydd, Cross Inn (D), llwybr 169 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Problemau gyda staffio | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Iau 13eg Chwefror 2025 |
6ed Chwefror 2025 | Pentre'r Bryn, Synod Inn, Ffostrasol, Llwyndafydd, Penbontrhydyfothau, Pontgarreg, Rhydlewis, Plwmp llwybr 172 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Problemau gyda staffio | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Iau 13eg Chwefror 2025 |
Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf