Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff

Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.

Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.

Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.

Diolch.

Dyddiad Ardal wedi’i effeithio Math o wastraff sydd wedi’i effeithio Rheswm Cyngor
28ain Awst 2025 Blaenporth, Tanygroes, Blaenannerch, Tremain, Parcllyn, Felinwynt, Ferwig, Penparc, Llangoedmor, Ponthirwaun, Llandygwydd, Cwm Cou
llwybr 118
Bagiau Ailgylchu Clir Problemau gyda staffio Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Sadwrn 30ain Awst 2025
28ain Awst 2025 B4459 Capel Dewi
llwybr 115
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Ffordd ar gau Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Gwener 29ain Awst 2025
28ain Awst 2025 Ffair Rhos
llwybr 116
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau gyda'r fflyd Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Gwener 29ain Awst 2025
23ain Awst 2025 Aberaeron, Dihewyd, Ffos y Ffin, Llwyncelyn, Derwen Gam, Neuaddlwyd
llwybr 165
Bagiau Ailgylchu Clir Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf
23ain Awst 2025 Aberarth, Ciliau Aeron, Cilcennin, Pennant
llwybr 168
Bagiau Ailgylchu Clir Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf
23ain Awst 2025 Cei Newydd, Maen y Groes, Gilfachreda
llwybr 162
Bagiau Ailgylchu Clir Problemau gyda staffio Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf

Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf