Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut y bydd Cynllun Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion yn casglu ac yn defnyddio data personol at ddibenion eich cynorthwyo chi wrth i chi gymryd rhan yn ein cynllun. 

Byddwn yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol fel y gallwn:

 

  • Asesu pa brosiect cyflogadwyedd yr ydych yn gymwys ar ei gyfer ac sydd fwyaf addas i'ch anghenion.
  • Darparu'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad diduedd diweddaraf i chi.
  • Monitro'r cymorth a'r gwasanaethau a ddarparir i'n cwsmeriaid.
  • Rhannu gwybodaeth gydag sefydliadau allanol ac adrannau mewnol priodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda pholisïau a gweithdrefnau diogelu yn ôl y gofyn.
  • Dangos tystiolaeth o'r ffaith eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol trwy ein prosiectau a ariannir gan grant fel a ganlyn:

o Gweithffyrdd+ - Ariannir hwn yn rhannol trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac fe'i reolir yn lleol gan Gyngor Sir Ceredigion.

O Gweithffyrdd+ STU – Ariannir hwn yn rhannol trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac fe'i reolir yn lleol gan Gyngor Sir Ceredigion.

O Cymunedau am Waith a Mwy – Ariannir trwy Lywodraeth Cymru ac fe'i reolir yn lleol gan Gyngor Sir Ceredigion.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn prosesu'r mathau canlynol o wybodaeth, a dim ond yr hyn sy'n angenrheidiol ac yn gymesur y byddwn yn ei brosesu;

 

  • Bywgraffyddol (enw, cyfeiriad ac ati)
  • Demograffaidd
  • Sefyllfa economaidd bresennol (cael budd-daliadau, sefyllfa gyflogaeth a manylion)
  • Os yw hynny'n berthnasol, nodwch fanylion y cymorth yr ydych yn ei gael ar hyn o bryd a pha gymorth yr hoffech ei gael neu y mae ei angen arnoch.
  • Y rhwystrau sy'n eich atal rhag symud ymlaen i gael cyflogaeth neu hyfforddiant.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am ddata ychwanegol neu i rannu data mwy sensitif megis data sy'n ymwneud â'ch iechyd neu anabledd.  Gelwir hwn yn ddata categori arbennig a chaiff hwn ei brosesu pan fydd angen gwneud hynny yn unig.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data yw ei fod yn ofynnol er mwyn eich cynorthwyo wrth i chi gymryd rhan yn ein cynllun.  Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn mynnu bod amodau penodol yn cael eu bodloni er mwyn sicrhau bod y broses o brosesu'ch data personol yn un gyfreithlon.  Nodir yr amodau perthnasol hyn isod:

 

  • Erthygl 6 (1)(e) – mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd wrth weithredu awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd;

 

Gwaharddir prosesu categorïau arbennig o ddata personol, sy'n cynnwys data ynghylch iechyd rhywun, oni bai y bodlonir amodau penodol pellach.  Yr amodau canlynol ar gyfer prosesu data o'r fath yw:

 

  • Erthygl 9 (2)(g) – mae prosesu yn angenrheidiol am resymau sy'n ymwneud â budd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail cyfraith ddomestig, a fydd yn gymesur â'r nod sy'n cael ei ganlyn, sy'n parchu hanfod yr hawl i ddiogelu data ac sy'n darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau a buddiannau sylfaenol gwrthrych y data;

 

Rydym yn prosesu eich data categori arbennig gan ei fod yn ofyniad er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig Cyfle Cyfartal ac yn rhoi sylw i rwystrau y gallent eich atal chi rhag symud ymlaen.  Yn ogystal, fe'i ddefnyddir er mwyn sicrhau bod unrhyw gymorth, profiad gwaith, hyfforddiant, gwirfoddoli neu gyflogaeth yn briodol a'i fod yn bodloni'ch anghenion iechyd a lles

Er mwyn ein galluogi i'ch cynorthwyo ac i gynnig cymorth, bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth bersonol gyda phartïon eraill.  Bydd y rhain yn cynnwys:

 

  • Gweithffyrdd+
  • Gweithffyrdd+ STU
  • Cymunedau am Waith a Mwy
  • Llywodraeth Cymru
  • Swyddfa Cyllido Llywodraeth Cymru
  • Comisiwn Ewropeaidd
  • Ein timau a'n gwasanaethau yng Nghyngor Sir Ceredigion, er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai.

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i ddiogelu'r gronfa gyhoeddus y mae'n ei rheoli.  Felly, gallai'r wybodaeth yr ydych chi wedi ei darparu gael ei defnyddio er mwyn atal a darganfod twyll neu at ddibenion archwilio, yn fewnol ac yn allanol

Dim ond am ba mor hir y bydd angen ei gadw y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cadw eich gwybodaeth.  Cedwir y wybodaeth a ddarparir gennych chi mewn ffordd ddiogel ac fe'i cedwir yn unol ag Amserlen Gadw Cyngor Sir Ceredigion a/neu Ganllawiau Cadw Swyddfa Cyllido Ewropeaidd Cymru, y mae modd troi ati trwy wefan Llywodraeth Cymru;  rheolau Cymhwystra WEFO:

 

Gwaredir eich gwybodaeth mewn ffordd ddiogel pan na fydd gofyn ei chael mwyach.  Os hoffech gael gwybod manylion pellach am gyfnodau cadw, cysylltwch â thîm Cyflogadwyedd Ceredigion, y nodir eu manylion cyswllt ar frig yr hysbysiad.

 

Eich Hawliau

 

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych chi hawliau, gan gynnwys:

 

  • Eich hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi;
  • Mewn rhai amgylchiadau (e.e.  pan gaiff cywirdeb ei herio), yr hawl i ofyn bod y broses o brosesu eich data personol yn cael ei chyfyngu;
  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i wrthwynebu i'r broses o brosesu eich data personol;
  • Mae gennych hawl mynediad – mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch data personol.  I wneud cais, cysylltwch â:

Y Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, SY23 3UE

E-bost:  data.protection@ceredigion.gov.uk

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn darparu manylion cyflawn yr holl agweddau ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol.  Fodd bynnag, rydym yn fodlon darparu unrhyw esboniad neu wybodaeth ychwanegol angenrheidiol.  Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i'r cyfeiriad isod: 

 

Y Swyddog Diogelu Data

Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, SY23 3UE

E-bost:  data.protection@ceredigion.gov.uk

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am y ffordd yr ydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy'n goruchwylio cyfraith diogelu data:

 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

SK9 5AF

Gwefan:  https://ico.org.uk/

 

Rhif Ffôn:  0303 123 1113

Tîm Brysbennu Cyflogadwyedd Ceredigion

Ffôn:  01545 574  e-bost:  TCC-EST@ceredigion.gov.uk

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.