Bydd yr wybodaeth a gasglwn ni amdanoch chi’n cael ei defnyddio at ddiben(ion):

  • Gweinyddu’ch hawl i Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth Gyngor
  • Cyflawni rôl Cyngor Sir Ceredigion o ran ymarfer awdurdod swyddogol neu fudd cyhoeddus

Y sail gyfreithiol dros brosesu’ch gwybodaeth yw:

  • Y Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol
  • Rheoliadau Budd-dal Tai
  • Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Rhagnodedig a Diofyn) (Cymru)
  • Atal/canfod trosedd, gan gynnwys ymhonni’n anwir yn unol â’r Ddeddf Twyll a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Canfod Twyll a Gorfodi) (Cymru)

Os na fyddwch chi’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn ni amdani, mi all olygu na fydd eich cais am Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth Gyngor yn cael ei brosesu.

Mi allwn gasglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhif Yswiriant Gwladol;
Rhyw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth;
Eich anghenion tai;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Eich tras neu darddiad ethnig;

Person Annibynnol – unigolion 18 mlwydd oed neu’n hŷn sy’n byw yn eich cartref ac yn ei ddefnyddio fel prif annedd ar sail anfasnachol. Bydd angen eu gwybodaeth er mwyn gweithio allan eich hawl i fudd-dal.

I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthoch chi, ond mi allwn ni hefyd dderbyn gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:

Adrannau eraill y Cyngor;
Asiantaethau eraill y Llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu a Chynghorau eraill;
Asiantaethau Credyd;
Cyflogwyr.

Mae’r mathau o ddata personol a dderbynnir fel uchod.

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mi allwn ni rannu’ch gwybodaeth chi gyda’r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Adrannau eraill y Cyngor;
  • Asiantaethau eraill y Llywodraeth megis Cynghorau eraill, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu, Menter Twyll Cenedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru;
  • Sefydliadau sy’n bartneriaid megis Cyngor ar Bopeth, Age Cymru neu unrhyw sefydliad arall sy’n gweithredu ar eich rhan;
  • Asiantaethau Casglu a’r Llys Sirol;
  • Partneriaid Cymorth Meddalwedd TG – bydd unrhyw fynediad ar gyfer datrys problemau technegol gyda’n systemau’n unig, a dim ond data sy’n gysylltiedig â hynny a welir

Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill yn ogystal lle gall fod angen inni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Pan fydd hi’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Pan fydd y datgelu o fudd hanfodol i’r unigolyn dan sylw