Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion):
Darparu cyngor cyfreithiol gweithredol a chorfforaethol, cynrychiolaeth, cymorth a chefnogaeth i’r Cyngor (gan gynnwys ei holl Wasanaethau).
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw:
- Rhwymedigaeth gyfreithiol;
- Tasg gyhoeddus
- Cyflawni contract.
Mae Gwasanaethau Cyfreithiol yn gweithredu dan ac yn cynghori’r Cyngor mewn perthynas ag ystod eang iawn o ddeddfwriaeth, ond gellir cyfeirio’r rhain mewn perthynas â meysydd penodol o’r gyfraith o wneud cais
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain atom yn methu cyflawni’r gwaith y gofynnwyd amdano.
Rydym yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn...
Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhyw;
Cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth ac addysg;
Eich anghenion tai;
Delweddau/ffotograffau;
Rhif cofrestru cerbyd;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Eich cefndir hiliol neu ethnig;
Safbwyntiau gwleidyddol;
Credoau crefyddol neu athronyddol;
Aelodaeth undeb llafur;
Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol;
Data genetig;
Data biometrig;
Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati.
Datganiadau ysgrifenedig a recordiadau o gyfweliadau a gynhaliwyd;
Gwybodaeth arall a gesglir wrth ffeilio achos cyfreithiol, ymchwiliad troseddol neu sifil neu achos Llys.
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth gan sefydliadau allanol fel Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol eraill, yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd, trydydd partïon, tystion ac ati sy’n ymwneud ag ymchwiliad hefyd.
Gellir sicrhau’r mathau canlynol o ddata personol:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhyw;
Cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth ac addysg;
Eich anghenion tai;
Delweddau/ffotograffau;
Rhif cofrestru cerbyd;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Eich cefndir hiliol neu ethnig;
Safbwyntiau gwleidyddol;
Credoau crefyddol neu athronyddol;
Aelodaeth undeb llafur;
Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol;
Data genetig;
Data biometrig;
Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati.
Datganiadau ysgrifenedig a recordiadau o gyfweliadau a gynhaliwyd;
Gwybodaeth arall a gesglir wrth ffeilio achos cyfreithiol, ymchwiliad troseddol neu sifil neu achos Llys.
Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Mewnol: Unrhyw Wasanaeth mewnol arall y Cyngor lle y bernir bod hynny’n angenrheidiol.
Allanol:
Llywodraeth Cymru, adrannau eraill Llywodraeth y DU, yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd, HMCTS.
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
• Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith: (archwilio, gorchymyn llys, gweithredu rheoliadol, cais AS, cyrff llywodraethol)
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
• Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw