Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion):
- Cyfrifo swm cywir y Treth Gyngor a/neu’r Ardrethi Annomestig y mae gofyn i chi ei dalu
- Cyflawni rôl Cyngor Sir Ceredigion wrth weithredu awdurdod swyddogol neu fudd y cyhoedd
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw:
- Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a 1992
- Atal neu ddatrys trosedd, gan gynnwys ymhonni’n anwir yn unol â Deddf Twyll 2006
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain atoch yn gorfod talu lefel anghywir y Dreth Gyngor a/neu Ardrethi Annomestig
Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw a/neu enw busnes;
Cyfeiriad;
Manylion deiliadaeth;
Rhif Yswiriant Gwladol;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Unrhyw wybodaeth berthnasol arall er mwyn prosesu unrhyw ryddhad neu ostyngiad
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:
Adrannau eraill y Cyngor;
Asiantaethau eraill y Llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu a Chynghorau eraill;
Asiantaethau Credyd;
Cyflogwyr;
Mae’r mathau o ddata personol y gellir eu sicrhau fel y nodir uchod
Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
- Adrannau eraill y Cyngor
- Asiantaethau eraill y Llywodraeth fel Cynghorau eraill, Cyllid a Thollau EM, Menter Atal Twyll Cenedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru
- Sefydliadau partner fel Cyngor ar Bopeth, Age Cymru neu unrhyw sefydliad arall sy’n gweithredu ar eich rhan
- Asiantau Casglu a’r Llys Sirol
- Partneriaid Cymorth Meddalwedd TG – bydd unrhyw fynediad er mwyn datrys unrhyw broblemau technegol gyda’n systemau, a bydd unrhyw achos o weld data yn achlysurol
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
• Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw