Fel Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, rydym yn gyfrifol am gyflawni ystod eang o swyddogaethau rheoliadol a statudol ar ran y Cyngor.  Rydym yn gorfodi ystod eang o ddeddfwriaeth, sy’n ceisio diogelu iechyd y cyhoedd, sicrhau amgylchedd masnachu diogelu i ddinasyddion a busnesau a diogelu’r amgylchedd.

Mae’n Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd yn sicrhau ein bod yn ymchwilio i geisiadau am wasanaeth, gan weithredu i fynd i’r afael â llygredd, materion sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid (gan gynnwys rheoli plâu ac anifeiliaid).  Mae hyn yn cynnwys cynnal archwiliadau rhagweithiol ar gyfer trwyddedau amgylcheddol, cyflenwadau dŵr preifat a dyletswyddau tir halogedig.  Rydym yn diogelu materion sy’n ymwneud ag iechyd yn y gweithle neu ddiogelwch bwyd hefyd trwy archwilio busnesau ac ymchwilio i gwynion neu ddamweiniau, gan weithredu i ddiogelu’r cyhoedd rhag clefydau heintus.  Yn ogystal, rydym yn archwilio safleoedd er mwyn sicrhau iechyd a lles anifeiliaid sy’n mynd ymlaen i’r gadwyn fwyd ddynol.

 

Mae ein gwasanaeth Safonau Masnach yn gweithio i ddiogelu defnyddwyr a busnesau lleol rhag arferion masnachu annheg a chynorthwyo busnesau cyfreithlon.  Mae’r gwasanaeth yn ymchwilio i gwynion a wneir gan ddefnyddwyr er mwyn sicrhau y caiff eu hawliau a’u diogelwch eu hamddiffyn, yn ogystal â mynd i’r afael â’r niwed a achosir gan fasnachwyr twyllodrus a busnesau sy’n masnachu mewn ffordd annheg neu sy’n elwa o werthu nwyddau ffug, anniogel neu anghyfreithlon.  Yn ogystal, rydym yn archwilio busnesau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gydag ystod eang o ddeddfwriaeth diogelu defnyddwyr megis diogelwch cynhyrchion, gwerthu yn unol â chyfyngiadau oedran, pwysau a mesurau, labelu a safonau bwyd, hylendid bwyd anifeiliaid.  Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth i ddioddefwyr sgamiau ac yn gweithio gydag asiantaethau partner i ddarparu mynediad i wasanaethau cymorth eraill.  Mae’r gwasanaeth yn darparu gwasanaeth gwasanaeth profi dilysu at gyfer offer pwyso a mesur penodol hefyd.

Fel Awdurdod Trwyddedu, rydym yn trwyddedu safleoedd i sicrhau y caiff alcohol, cerddoriaeth a dawnsio eu manwerthu mewn ffordd gyfrifol er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael effaith negyddol ar y gymuned leol.  Yn ogystal, rydym yn sicrhau bod gan y Bwrdeistref Sirol fflyd o dacsis sy’n bodloni anghenion ein cymunedau mewn ffordd ddiogel ac y mae eu gyrwyr yn destun gweithgarwch fetio llym.  Rydym yn trwyddedu gweithgareddau ychwanegol fel siopau anifeiliaid anwes, llety anifeiliaid a sefydliadau magu anifeiliaid a delwyr metel sgrap.  Fel gwasanaeth, rydym yn trwyddedu gweithgareddau tyllu’r croen hefyd (megis tatŵio), cyfleusterau storio a gwerthu tân gwyllt a rheoli safleoedd sy’n storio ac yn gwerthu petrolewm.

 

 

Mae’r sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth fel a ganlyn:

  • 6(1)(c) Mae angen prosesu er mwyn cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol
  • 6(1)(e) Mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth weithredu awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd

Ceir nifer fawr o ofynion deddfwriaethol y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw ac felly, prosesu data personol.  Mae rhestr lawn ar gael o wneud cais.

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain at:

  • Yr Awdurdod Lleol yn methu sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol ac yn gorfodi’r ddeddfwriaeth y mae ganddo gyfrifoldeb drosti. Mewn rhai achosion, rhaid darparu gwybodaeth er mwyn galluogi’r Awdurdod Lleol i gynnal ymchwiliad, ac fe allai methu gwneud hynny fod yn drosedd dan ddeddfwriaeth.

Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

 

Enw;

Cyfeiriad;

Dyddiad geni;

Rhyw;    

Cyfeirnod unigryw;

Rhif ffôn;

Cyfeiriad e-bost;

Cyfansoddiad eich teulu;

Eich amgylchiadau cymdeithasol;

Manylion cyflogaeth ac addysg;

Delweddau/ffotograffau;

Rhif cofrestru cerbyd;

Gwybodaeth am eich iechyd;

Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol;

Euogfarnau troseddol a throseddau;  ac ati

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:

  • Gwasanaethau Awdurdodau Lleol Eraill
  • Asiantaethau a Sefydliadau eraill y Llywodraeth, megis yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Arolygiaeth Wledig Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru
  • Unrhyw gorff cyhoeddus sy’n gyfrifol am ddatrys, atal troseddu, twyll, neu archwilio.
  • Gwasanaethau Brys
  • Awdurdodau Lleol eraill

 

Gellir sicrhau’r mathau canlynol o ddata personol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:


Enw;

Cyfeiriad;

Dyddiad geni;

Rhyw;   

Cyfeirnod unigryw;

Rhif ffôn;

Cyfeiriad e-bost;

Manylion banc/talu;

Cyfansoddiad eich teulu;

Eich amgylchiadau cymdeithasol;

Manylion cyflogaeth ac addysg;

Delweddau/ffotograffau;

Rhif cofrestru cerbyd;

Gwybodaeth am eich iechyd;

Eich cefndir hiliol neu ethnig;

Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol;

Euogfarnau troseddol a throseddau;  ac ati

Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:


Mewnol:

 

Gwasanaethau mewnol y Cyngor megis:

  • Treth Gyngor
  • Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu
  • TGCh a Rheoli Gwybodaeth – bydd unrhyw fynediad er mwyn datrys unrhyw faterion technegol gyda’n systemau a bydd unrhyw achos o weld data yn achlysurol.
  • Gwasanaethau Cyswllt Cwsmeriaid
  • Gwasanaethau Cynllunio

 

Allanol:

 

  • Tîm Safonau Masnach Cenedlaethol
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru/ GIG
  • Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Arolygiaeth Wledig Cymru
  • Heddlu
  • Bwrdd Iechyd Lleol
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Dŵr Cymru a chyflenwyr dŵr eraill
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Cynrychiolwyr cyfreithiol eraill pan fo hynny’n berthnasol

 

Cyflenwyr trydydd parti yr ymddiriedir ynddynt a sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth ar ein rhan:

 

  • Ymgynghorwyr Amgylcheddol sy’n gweithio ar ran y Cyngor
  • Partneriaid Cymorth Meddalwedd TG – bydd unrhyw fynediad er mwyn datrys unrhyw faterion technegol gyda’n systemau, a bydd unrhyw achos o weld data yn achlysurol.
  • RH Environmental Ltd sy’n darparu 'The noise app', sy’n galluogi achwynwyr i gofnodi niwsans sŵn er mwyn cynorthwyo ymchwiliad

 

Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
• Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd

  • Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw