Bydd yr wybodaeth a gasglwn ni amdanoch chi’n cael ei defnyddio at ddiben(ion):
- Cyfrifo’ch atebolrwydd cywir o ran y Dreth Gyngor a/neu Ardrethi Annomestig
- Cyflawni rôl Cyngor Sir Ceredigion o ran ymarfer awdurdod swyddogol neu fudd cyhoeddusY sail gyfreithiol dros brosesu’ch gwybodaeth yw:
- Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac 1992
- Atal neu ganfod trosedd, gan gynnwys ymhonni’n anwir yn unol â Deddf Twyll 2006
Os na fyddwch chi’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn ni amdani, mi all olygu eich bod chi’n atebol am dalu’r lefel anghywir o Dreth Gyngor a/neu Ardrethi Annomestig.
Mi allwn gasglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw a/neu enw’r busnes;
Cyfeiriad;
Manylion deiliadaeth;
Rhif Yswiriant Gwladol;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Unrhyw wybodaeth berthnasol arall er mwyn prosesu unrhyw ryddhad neu ostyngiad
I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthoch chi, ond mi allwn ni hefyd dderbyn gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:
Adrannau eraill y Cyngor;
Asiantaethau eraill y Llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu a Chynghorau eraill;
Asiantaethau Credyd;
Cyflogwyr.
Mae’r mathau o ddata personol a dderbynnir fel uchod.
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Mi allwn ni rannu’ch gwybodaeth chi gyda’r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Adrannau eraill y Cyngor;
- Asiantaethau eraill y Llywodraeth megis Cynghorau eraill, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu, Menter Twyll Cenedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru;
- Sefydliadau sy’n bartneriaid megis Cyngor ar Bopeth, Age Cymru neu unrhyw sefydliad arall sy’n gweithredu ar eich rhan;
- Asiantaethau Casglu a’r Llys Sirol;
- Partneriaid Cymorth Meddalwedd TG – bydd unrhyw fynediad ar gyfer datrys problemau technegol gyda’n systemau’n unig, a dim ond data sy’n gysylltiedig â hynny a welirMae yna sefyllfaoedd penodol eraill yn ogystal lle gall fod angen inni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
• Pan fydd hi’n ofynnol i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
• Pan fydd y datgelu o fudd hanfodol i’r unigolyn dan sylw