Gan ymateb i bandemig parhaus Covid-19, mae gofyn i Gyngor Sir Ceredigion gyflawni ystod eang o weithgarwch prosesu data personol er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau cyffredinol fel awdurdod lleol, ei rwymedigaethau iechyd y cyhoedd cyffredinol a’r rhwymedigaethau sydd arno mewn perthynas â deddfwriaeth a basiwyd gan lywodraeth ganolog.  Cynlluniwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn i gynnig trosolwg cyffredinol o’r gweithrediadau prosesu sy’n angenrheidiol oherwydd dyletswydd yr Awdurdod i ymateb i’r pandemig.  Rhoddir dolenni i wybodaeth fwy penodol a ddarparir gan randdeiliaid allanol ar ddiwedd yr hysbysiad.

  • Efallai y bydd angen prosesu data personol am y dibenion canlynol:

 

  • Deall Covid-19 a risgiau i iechyd y cyhoedd, a rheoli ac atal lledaeniad Covid-19

 

  • Nodi a deall gwybodaeth am unigolion sydd â Covid-19 neu’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu Covid-19

 

  • Darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â phrofi a rhoi diagnosis Covid-19, yn ogystal â phrosesu sy’n gysylltiedig ag ymyriadau sy’n ymwneud â Covid-19

 

  • Prosesu mewn perthynas â mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan wrthrychau data, sy’n ymwneud â Covid-19.

 

  • Darparu gwybodaeth berthnasol i’r cyhoedd

 

  • Darparu cymorth a darparu rhaglenni cymorth i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y Coronafeirws (er enghraifft, taliadau hunanynysu a thaliadau atodol i ofalwyr)

 

  • Gwerthuso a rheoli ymateb yr Awdurdod i’r pandemig

 

  • Ymchwil a chynllunio mewn perthynas â Covid-19.

 

Y sail gyfreithiol dros brosesu yw:

 

Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth weithredu awdurdod swyddogol

Cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol

Mewn amgylchiadau penodol, efallai y bydd angen prosesu er budd hanfodol gwrthrych y data.

 

 

 

Pan brosesir data categori arbennig, y sail gyfreithlon fydd:

 

Erthygl 9(2)(g) GDPR y DU, budd sylweddol y cyhoedd

Erthygl 9(2)(h) GDPR y DU, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau neu wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol

Erthygl 9 (2)(i) GDPR y DU, diogelu iechyd y cyhoedd

Erthygl 9 (2)(j) GDPR y DU, dadansoddi gwybodaeth at ddibenion ystadegol

 

 

Pan fydd gofyn, yr amod prosesu er budd sylweddol i’r cyhoedd fydd:

 

Dibenion statudol a llywodraethu

 

 

Y deddfau neu reolau’r gyfraith y dibynnir arnynt yw:

 

  • Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984
  • Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth Cleifion) 2002
  • Deddf Coronafeirws 2020
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

Rhyw;

Cyfeirnodau unigryw;

Rhif ffôn;

Cyfeiriad e-bost;

Manylion banc/talu;

Cyfansoddiad eich teulu gan gynnwys cysylltiadau’r aelwyd;

Eich amgylchiadau cymdeithasol;

Eich amgylchiadau ariannol;

Manylion cyflogaeth ac addysg;

Gwybodaeth am eich iechyd;

 

 

Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Awdurdodau lleol eraill

Llywodraeth Cymru

Sefydliadau o’r Trydydd Sector (er enghraifft, Ymarferwyr Cyffredinol)

Iechyd Cyhoeddus Cymru

GIG Digidol

GIG Lloegr

Adrannau awdurdod lleol perthnasol o fewn Cyngor Sir Ceredigion os bydd gofyn gwneud hynny yn benodol

 

 

Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:


  • Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith:
    • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw

Llyw.cymru:  Profi Olrhain Diogelu (dolen allanol)

 

GIG Cymru:  Profi, Olrhain a Diogelu – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)

 

GIG Cymru:  Profi – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)

 

GIG Cymru:  Olrhain – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)

 

GIG Cymru:  Diogelu – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)

 

GIG Cymru:  Ap Profi ac Olrhain GIG – Gwybodaeth am Breifatrwydd a Diogelu Data (dolen allanol)

 

GIG Cymru:  Cwynion ac arfer eich hawliau o dan Ddiogelu Data (dolen allanol)

 

Llyw.cymru:  Coronafeirws (COVID-19):  cefnogi pobl agored i niwed datganiad preifatrwydd (dolen allanol) 

 

Llyw.cymru:  Cynllun cymorth hunanynysu Covid-19:  hysbysiad preifatrwydd (dolen allanol)