Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion): cynnig sicrwydd i’r Cyngor am ei drefniadau rheoli, ei lywodraethu, ei weithgarwch rheoli risg a’i brosesau twyll, h.y.
- Cyflawni gofynion cyfreithiol i ddarparu swyddogaeth archwilio mewnol
- Sicrhau effeithiolrwydd prosesau rheoli risg a llywodraethu
- Cynnal ymarferion gwerth am arian
- Hwyluso’r broses o atal a datrys achosion o dwyll, llwgrwobrwyo, llygredd neu wyngalchu arian yn erbyn y Cyngor
- Ymchwilio i gyfeiriadau a wneir gan y polisi chwythu’r chwiban corfforaethol
- Ymchwilio i unrhyw afreoleidd-dra posibl a ddarganfyddir yn ystod arferion gwaith neu fel y’u hysbysir gan staff a/neu’r cyhoedd
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw: Adran 151 Deddf Llywodraeth Leol 1972, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014
Byddwn yn cael mynediad i wybodaeth sy’n cael ei dal gan yr holl wasanaethau o fewn y Cyngor er mwyn gallu cyflawni ein gwaith, y gallai gynnwys y data personol canlynol:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhyw;
Statws priodasol,
Cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion ariannol;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion addysg a chyflogaeth;
Eich anghenion tai;
Delweddau/ffotograffau;
Rhif cofrestru cerbyd;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Aelodaeth undeb llafur;
Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati
Datganiadau ysgrifenedig a recordiadau o gyfweliadau a gynhaliwyd;
Gwybodaeth arall a gasglwyd yn ystod archwiliad, ymchwiliad neu ymarfer rhagweithiol.
Er mwyn darparu ein gwasanaethau, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth gan unrhyw sefydliad allanol y mae gan y Cyngor gyswllt ag ef, ee Swyddfa Archwilio Cymru, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol eraill, cartrefi preswyl preifat ar gyfer yr henoed, ac ati; a thrydydd partïon, tystion ac ati a fu’n ymwneud ag ymchwiliad.
Efallai y caiff y mathau canlynol o ddata personol eu sicrhau:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhyw;
Statws priodasol,
Cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion ariannol;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion addysg a chyflogaeth;
Eich anghenion tai;
Delweddau/ffotograffau;
Rhif cofrestru cerbyd;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Aelodaeth undeb llafur;
Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati
Datganiadau ysgrifenedig a recordiadau o gyfweliadau a gynhaliwyd;
Gwybodaeth arall sy’n ofynnol er mwyn cynnal archwiliad, ymchwiliad neu ymarfer rhagweithiol.
Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol:
Mewnol: Unrhyw wasanaeth mewnol arall y cyngor lle y bernir bod hynny’n angenrheidiol
Allanol: Swyddfa’r Cabinet / WAO ar gyfer ymarfer cyfateb data Menter Twyll Cenedlaethol, ac ati. Adrannau eraill y Llywodraeth megis yr heddlu, CThEM, DWP, ac ati
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
• Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
- Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw