Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion) darparu gwasanaeth, gan gynnwys:
- gwneud taliadau i unigolion a darparwyr gwasanaeth
- casglu debyd uniongyrchol er mwyn setlo anfonebau a roddir i unigolion am wasanaethau a ddarparir gan neu ar ran Cyngor Sir Ceredigion
- Cyflogres
- Delio â hawliadau
- Caffael
- Asesiadau ariannol
- dyfarnu grantiau
- cynnal ein cyfrifon a’n cofnodion ein hunain
Mae’r sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth fel y nodir ym mharagraffau 1 b) ac 1 c) Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR DU), fel y nodir isod:
- Tasg gyhoeddus – “…mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu er mwyn cyflawni awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd”.
Contract – “…mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni contract y mae gwrthrych y data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau ar gais gwrthrych y data cyn ymrwymo i gontract.”
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, efallai na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth.
Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Efallai y caiff y mathau canlynol o ddata personol eu sicrhau, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
Enw;
Cyfeiriad;
Dyddiad geni;
Rhyw;
Cyfeirnod unigryw;
Rhif ffôn;
Cyfeiriad e-bost;
Manylion banc/talu;
Cyfansoddiad eich teulu;
Eich amgylchiadau cymdeithasol;
Eich amgylchiadau ariannol;
Manylion cyflogaeth ac addysg;
Delweddau/ffotograffau;
Rhif cofrestru cerbyd;
Gwybodaeth am eich iechyd;
Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati.
Llofnod
Eich amgylchiadau ariannol
Manylion addysg a chyflogaeth
Manylion hyfforddi
Aelodaeth sefydliadau proffesiynol
Achrediadau
Geirda
Delweddau/ffotograffau
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:
- Meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor
- Asiantaethau gwirio credyd
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
- Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
- Cynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
- Canolwyr
Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft GwerthwchiGymru; Tŷ'r Cwmnïau
Efallai y trosglwyddir eich gwybodaeth i wlad dramor trwy ei chyhoeddi yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).
Byddwn yn gwneud hyn er mwyn bodloni Rheoliadau Caffael UE mewn perthynas â Hysbysiadau Dyfarnu Contract. Dim ond i ddata sy’n ymwneud ag ymgeiswyr/cyflenwyr llwyddiannus mewn perthynas â chyfleoedd contract a hysbysebir yn OJEU y mae hwn yn berthnasol.
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
- Meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor
- Asiantaethau gwirio credyd
- HMCTS (Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM)
- Pob banc a chymdeithas adeiladu
- Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
- Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
- Cynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
- Canolwyr
- Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft GwerthwchiGymru; Tŷ'r Cwmnïau.
- Canolwyr
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
• Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
• Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
- Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw.