Gan ddibynnu ar natur eich perthynas gyda’r Amgeuddfa, gellir defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion):

 

  • Darparu gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau a datblygiadau yn yr Amgueddfa
  • Rheoli cyswllt gyda a darparu gwybodaeth am ein cyllidwyr a’n cefnogwyr
  • Ein galluogi i nodi a darparu cyfleoedd gwirfoddoli addas gyda ni
  • Ein galluogi i greu cyfleoedd dysgu sy’n addas i’ch gofynion
  • Gweinyddu taliadau a phryniannau
  • Gwerthuso effeithlonrwydd ein gwasanaeth

 

 

 

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw:

 

  • Mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu er mwyn cyflawni swyddogaethau swyddogol
  • Mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni contract neu gytundeb gyda chi (er enghraifft cytundeb gwirfoddoli)

 

Mae’r Awdurdod Lleol yn gweithredu Amgueddfa Ceredigion dan ddarpariaethau Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, efallai na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt i chi, neu efallai na fyddwn yn gallu cynnig cyfleoedd dysgu neu wirfoddoli i chi.

Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:  …

 
Enw;

Cyfeiriad;

Dyddiad geni;

Rhyw;

Rhif ffôn;

Cyfeiriad e-bost;

Gwybodaeth am gerdyn Credyd/Debyd

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond efallai y byddwn yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd mewn rhai amgylchiadau:

 

  • Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion

Efallai y caiff y mathau canlynol o ddata personol eu sicrhau, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

Enw;

Cyfeiriad;

Rhif ffôn;

Cyfeiriad e-bost;

Gwybodaeth am gerdyn Credyd/Debyd

Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Fel arfer, ni rennir y data personol y byddwch yn ei ddarparu i ni gydag unrhyw wasanaeth arall o fewn Cyngor Sir Ceredigion, na gydag unrhyw drydydd parti y tu allan i’r sefydliad.

Fodd bynnag, ceir sefyllfaoedd penodol lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:


  • Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
    • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw