Safle Gwastraff Cartref a Banciau Ailgylchu
O'r 1af Mehefin 2025 ni fyddwn bellach yn derbyn unrhyw “fagiau du” heb eu didoli mewn unrhyw un o’r Safleoedd Gwastraff Cartref yng Ngheredigion.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu pedwar Safle Gwastraff Cartref yn y sir:
Cilmaenllwyd, Penparc, Aberteifi SA43 1RB
Oriau agor:
- Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 -17:00
- Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00 - 15:00
- Ar Gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith
Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3JQ
Oriau agor:
- Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 -17:00
- Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00 - 15:00
- Ar Gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith
Rhydeinon, Llanarth SA47 0QP
Oriau agor:
- Dydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul 10:00-17:00
-
Ar Gau ar Ddydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener, Dydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith
Yr Ystâd Ddiwydiannol, Heol Tregaron, Llanbedr Pont Steffan SA48 8LT
Oriau agor:
- Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 -17:00
- Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00 - 15:00
- Ar Gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith
Rydym yn annog pawb i ailgylchu’r hyn y gallwch gartref cyn ymweld â’r Safle Gwastraff Cartref.
Bydd polisi “dim gwastraff annidoledig” yn y Safleoedd Gwastraff Cartref. Mae hyn yn golygu, os byddwch chi’n mynd â “bagiau du” i’r safleoedd, bydd yn ofynnol i chi wagio’r bagiau ac ailgylchu popeth y gellir ei ailgylchu, cyn gwaredu’r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn y sgip gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
Nid yw hyn yn waharddiad llwyr ar wastraff nad oes modd ei ailgylchu, ac nid oes terfyn ar faint o wastraff nad oes modd ei ailgylchu y gellir ei gymryd i Safle Gwastraff Cartref, yn amodol ar yr amodau canlynol:
- Mae’r gwastraff yn dod o eiddo yng Ngheredigion (bydd angen prawf o gyfeiriad).
- Mae’r gwastraff yn dod o eiddo domestig. Mae hyn yn eithrio unrhyw wastraff sy’n dod o weithgarwch masnachol gan gynnwys eiddo fel llety gwyliau.
- Nid yw’r cynhwysydd gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cynnwys unrhyw beth y gellid bod wedi cael ei ddidoli gartref i’w ailgylchu, neu ar y Safle Gwastraff Cartref.
Fe’ch cynghorir i ddidoli eich gwastraff gartref. Rhowch unrhyw beth y gellir ei ailgylchu ar ochr y palmant yn y cynhwysydd priodol. Dylid gwahanu unrhyw beth y gellir ei ailgylchu ar y Safle Gwastraff Cartref hefyd.
Ar ôl cyrraedd y Safle Gwastraff Cartref, gofynnir i chi am brawf preswylio, felly ewch â’ch trwydded yrru, neu’r bil cyfleustodau.
Dylid rhoi deunyddiau ailgylchadwy yn y cynhwysydd priodol, fel y cyfarwyddir gan y cynorthwyydd safle.
Os oes gennych wastraff math “bag du” cewch eich cyfeirio at Ardal Didoli. Yma, gofynnir i chi ddidoli eich gwastraff a rhoi unrhyw beth y gellid ei ailgylchu yn y cynhwysydd priodol.
Yna gellir rhoi eich gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn y cynhwysydd gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
Dilynwch y cyfarwyddiadau a roddwyd i chi gan y cynorthwyydd safle.
Sylwch fod rheolau’r safle yn berthnasol i’r holl Safleoedd Gwastraff Cartref yng Ngheredigion, sydd i’w gweld isod.
Gall methu â dilyn rheolau’r safle arwain at wrthod mynediad i chi yn y dyfodol.
Dewch o hyd i'ch Banc Ailgylchu agosaf yn Ceredigion
Gellir dod o hyd i fanciau ailgylchu ar draws Ceredigion er mwyn ailgylchu nwyddau megis gwydr a tecstilau. Fel arfer mae’r banciau ailgylchu wedi’u lleoli o fewn meysydd parcio.
A i Y o drefi a phentrefi sydd â banciau ailgylchu
Map Rhyngweithiol
- Diemwnt Gwyrdd = Safle Gwastraff Cartref
- Sgwâr Glas = Banc Ailgylchu
- Cylch Coch = Canolfan Ailgylchu