Dylai'r canllawiau isod eich helpu i benderfynu a allwch chi fynd â'ch gwastraff i'r safle, ac a fydd angen i chi wneud cais am Drwydded Ddydd.

Dim angen trwydded

Mewn perchnogaeth breifat:

  • Car
  • Fan bach e.e. Partner, Kangoo, Caddy, Transit Connect ac ati
  • Fan fach i ganolig gyda ffenestri ochr a seddi
  • Car stad
  • Tryc bach/4x4
  • Trelar domestig bach: 8 tr x 4 tr neu lai

Ar yr amod bod y cerbydau yn cludo gwastraff cartref.

Angen Trwydded

  • Fan maint canolig, e.e., Transit Custom, Expert, Vivaro, Trafic, Dispatch, Transporter
  • Trelar sy'n fwy na'r rhai a nodir yn Dim angen trwydded*
  • Bws mini
  • Cerbyd mewn perchnogaeth fasnachol
  • Fan hurio sydd wedi'i gynnwys yn y categorïau uchod

Ar yr amod bod y cerbydau yn cludo gwastraff cartref.

*Wedi'i chaniatáu yn ôl disgresiwn y Cyngor a Gweithredwr Safle, yn dibynnu ar fath a maint y trelar a'r gwastraff sydd i'w waredu.

Heb ei ganiatau ar y safle

  • Lori
  • Fan gwely gwastad
  • Fan fawr e.e., fan bocs Luton, Transit, Crafter, Master, Boxer
  • Fan godi
  • Tractor
  • Fan geffylau
  • Cerbyd amaethyddol
  • Unrhyw gerbyd arall nad yw wedi'i gynnwys yn unman arall

Gwneud cais am Drwydded Ddydd

  • Mae'r Drwydded Ddydd yn caniatáu un ymweliad â'r Safle Gwastraff Cartref. Ni roddir mwy nag un drwydded y mis i unrhyw unigolyn/aelwyd. Os oes angen i chi gael gwared ar fwy o wastraff nag y mae'r drwydded yn ei ganiatáu, gwnewch drefniadau eraill fel hurio sgip/gwasanaethau casglu gwastraff masnachol.

  • Cysylltwch â ni i drefnu trwydded. Bydd gofyn i chi ddarparu:
    • math a maint y gwastraff rydych am fynd ag ef i'r safle
    • dyddiad arfaethedig eich ymweliad
    • gwneuthuriad, model a rhif cofrestru'r cerbyd

  • I gael trwydded, rhaid rhoi leiaf un diwrnod gwaith llawn o rybudd. I ymweld ar ddydd Llun bydd angen gwneud cais am y drwydded erbyn 12:00 canol dydd ar y dydd Gwener cyn yr ymweliad. I ymweld â Safle Gwastraff Cartref ar ddydd Sadwrn, dydd Sul neu ddydd Llun Gŵyl y Banc, rhaid gwneud cais am y drwydded erbyn 4:30pm ar y dydd Iau cyn yr ymweliad.