Bag aIlgylchu clirBob Wythnos

Rhaid rhoi’r holl ddeunyddiau sych y gellir eu hailgylchu yn rhydd yn y bag. Peidiwch â rhoi eitemau mewn bagiau ar wahân yn eich bag ailgylchu clir. Mae Bagiau Ailgylchu ar gael o’n Canolfannau Ailgylchu Cymunedol.


Eitemau y gellir eu rhoi yn eich bag ailgylchu clir:

  • Papur – pob math gan gynnwys papurau newydd, cylchgronau, cyfeirlyfrau, papur ysgrifennu, post sothach ac ati
  • Cardbord – Bocsys a phacedi
  • Cartonau ar gyfer Bwyd a Diod - Cartonau ar gyfer cawl, llaeth a sudd
  • Tuniau bwyd, tuniau diod, tuniau bwyd anifeiliaid anwes, caniau aerosol a ffoil alwminiwm
  • Poteli plastig, tybiau, hambyrddau, potiau, polystyren, bagiau, cling ffilm. Edrychwch am y symbolau canlynol ar eitemau plastig gan ei bod yn dderbyniol rhoi’r rhain i gyd yn y bagiau ailgylchu clir
    Image of symbols for plastic items

* Golchwch bob eitem a ddefnyddiwyd i becynnu bwyd neu ddiod os gwelwch yn dda.


Noder: Ni ddylech roi’r eitemau canlynol yn eich bag ailgylchu clir: 

  • Poteli a jariau gwydr
  • Pacedi creision / Papurau lapio siocledi
  • Papur wal
  • Papur gwrthsaim
  • Hancesi papur
  • Tecstiliau
  • Cewynnau
  • Eitemau trydanol
  • Gwastraff bwyd
  • Gwastraff gardd