Coronafeirws: Diweddariad ynglŷn â’r Gwasanaethau Gwastraff (22 Rhagfyr 2020)
Mae’r wybodaeth isod yn darparu diweddariad ar wasanaethau gwastraff y Cyngor o ganlyniad i'r sefyllafa'r Coronafeirws.
Safleoedd Gwastraff Cartref
Bydd Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion yn Aberystwyth, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan a Llanarth yn parhau i fod ar agor, gan eithrio 24.12.20, 25.12.20 a 01.01.21. Anogir trigolion i beidio ag ymweld â’r safleoedd oni bai ei fod yn hanfodol – os na ellir storio’r eitemau gwastraff yn ddiogel gartref neu os na ellir eu casglu yn rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff domestig arferol. Atgoffir trigolion fod rheolau a mesuriadau ychwanegol mewn lle a bydd rhaid glynnu at rhain. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Gwasanaeth Casglu Gwastraff o Ymyl y Ffordd
Mae'r gwasanaeth casglu gwastraff craidd (ailgylchu, gwastraff bwyd, gwastraff na ellir ei ailgylchu ("bagiau du"), gwydr a Chynnyrch Hylendid Amsugnol) wedi parhau drwy gydol sefyllfa’r Coronafeirws, ac nid yw hyn wedi newid. Ein blaenoriaeth yw ceisio darparu'r gwasanaeth hwn drwy gydol y cyfnod atal.
Cofiwch y gallwch wirio dyddiad eich casgliad gwastraff gan ddefnyddio'r adnodd chwilio Cod Post ar wefan y Cyngor.
Gwastraff sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws
Rhowch eich gwastraff personol megis hancesi papur, cadachau glanhau tafladwy, gorchuddion wyneb tafladwy, menig tafladwy ac unrhyw gyfarpar diogelu personol (PPE) arall yn y gwastraff na ellir ei ailgylchu (“bag du”).
Clymwch fag sbwriel ychwanegol o amgylch eich holl wastraff na ellir ei ailgylchu (bag du) yn ystod y cyfnod hwn.
Os ydych yn hunanynysu oherwydd eich bod yn amau bod gennych Covid-19 neu oherwydd eich bod wedi cael cadarnhad o hynny, peidiwch â rhoi gwastraff allan i’w gasglu am o leiaf tri diwrnod. Er enghraifft, os ydych chi wedi llenwi/clymu bag ar ddydd Llun ac mae eich gwastraff i fod i gael ei gasglu fore dydd Iau, gellir rhoi’r bag hwnnw allan i’w gasglu ar fore dydd Iau. Fodd bynnag, os ydych chi wedi llenwi/clymu bag ar ddydd Llun ac mae eich casgliad ar ddydd Mercher, byddai angen i chi gadw’r bag hwnnw tan eich casgliad nesaf. Dyma’r cyngor gan y llywodraeth a’i nod yw atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo i eraill.
Casglu Gwastraff Cartref Swmpus a Gwastraff o’r Ardd
Ataliwyd y gwasanaethau hyn o ganlyniad i’r cyfnod clo cychwynnol, ac maent wedi’u hatal o hyd. Ein blaenoriaeth yw darparu'r gwasanaeth casglu gwastraff craidd. Mae ein staff casglu gwastraff hefyd yn helpu'r Cyngor i ymateb i argyfyngau, gan gynnwys gwasanaeth y Priffyrdd dros y gaeaf. Mae'n debygol felly y bydd y gwasanaethau hyn yn parhau i fod wedi’u hatal tan wanwyn 2021.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn casglu gwastraff yn rheolaidd o bob eiddo domestig yn y Sir.
Rhoi gwastraff cartref allan i’w gasglu
- Dylai pob gwastraff gael ei gyflwyno ar fore’r casgliad cyn 8am
- Os ydych newydd symud i’r ardal, cysylltwch â ni am becyn ailgylchu
Fe wna’r Cyngor ei orau glas i gasglu‘r gwastraff. Bydd unrhyw aflonyddwch i’r gwasanaeth yn cael ei hysbysebu ar y wefan www.ceredigion.gov.uk/aflonyddwchirgwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd. Diolch.
Pa ddiwrnodau fydd fy nghasgliadau i?
Gallwch ddefnyddio ein Chwilio Cod Post
Cysylltwch
Allech chi gysylltu â ni ar y ffyrdd canlynol:
Ein Ffurflen Cyswllt Ar-lein
Post:
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
Ffôn:
01545 570881